大象传媒

Cyngor i'r llywodraeth 'droi cefn' ar gytundeb Pinewood

  • Cyhoeddwyd
Pinewood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe symudodd Pinewood i'r safle sydd ar gyrion Caerdydd yn 2015

Cafodd Llywodraeth Cymru gyngor i "droi cefn" ar gytundeb gyda Pinewood gan eu prif gynghorydd teledu a ffilmiau.

Fe glywodd pwyllgor o ACau fod Ron Jones, sylfaenydd y cwmni cynhyrchu teledu Tinoplis, wedi cynghori'r cyn weinidog economaidd, Edwina Hart, i roi'r gorau i'r berthynas broffesiynol gyda Pinewood yn gynnar yn 2016.

Mae Mr Jones yn cadeirio panel diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru ac yn aelod o'u panel buddsoddi yn y cyfryngau hefyd.

Roedd yn ymddangos o flaen y pwyllgor diwylliant sydd yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd ar y sector ffilmiau a chynyrchiadau teledu yng Nghymru.

Dywedodd olynydd Ms Hart, yr Ysgrifennydd Economaidd Ken Skates, fod cyngor Mr Jones wedi ei wrthod am fod yna bryderon y byddai hyn yn effeithio ar enw da'r llywodraeth pe byddent yn colli "brand cryf iawn".

Mae cytundeb y llywodraeth gyda Pinewood o dan y chwyddwydr ar 么l iddi ddod i'r amlwg bod gweinidogion nawr yn talu'r stiwdio ffilm ryngwladol i aros yng Nghaerdydd.

Cafodd yr adeilad lle mae'r stiwdio wedi ei leoli ei brynu gan Lywodraeth Cymru a'i ddatblygu am 拢9.5m cyn ei rhoi ar brydles i Pinewood yn 2015.

Ond cafodd amodau'r brydles eu trafod eto yn 2017 a nawr mae Pinewood yn cael ei dalu i reoli a hyrwyddo'r stiwdio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ron Jones fod Pinewood wedi helpu i greu presenoldeb o Gymru ar draws y byd

Pan symudodd Pinewood i Gymru i ddechrau roedd y stiwdio ffilm hefyd yn gyfrifol am grant 拢30m i ddenu cynyrchiadau ffilm a theledu i'r wlad. Ond fe ddywedodd Mr Jones bod gwrthdaro buddiannau wedi amlygu eu hunain yn Pinewood.

Dyna pam roedd o wedi dweud wrth y llywodraeth i beidio cefnogi'r stiwdio yn 2016.

Dywedodd wrth y pwyllgor: "Fy nghyngor i i Ms Hart oedd troi cefn ar y berthynas gyda Pinewood yn gyfan gwbl."

Ond ychwanegodd bod cyfres o bethau wedi digwydd, gan gynnwys penderfyniad Ms Hart i ymddeol a phenodi gweinidog newydd ar 么l hynny.

Marchnata ar draws y byd

"Mae'n deg i ddweud bod amser wedi ei golli yn ystod y cyfnod yma am resymau dealladwy," ychwanegodd.

Cafodd Ron Jones drafodaethau pellach er mwyn dod i gytundeb arall gyda Pinewood a dywedodd iddo fod yn reit "llym" gyda'r prif weithredwr.

Er y cytundeb newydd cyngor Mr Jones oedd golchi dwylo gyda'r stiwdio.

"Ond rwy'n pwysleisio nad yw'r pethau yma yn faterion syml," ychwanegodd.

Fe wnaeth hefyd ganmol cyfraniad Pinewood gan ddweud fod Cymru wedi ei farchnata "ar draws y byd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ken Skates wedi amddiffyn y penderfyniad i ddod i gytundeb newydd gyda stiwdio Pinewood

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn credu nad oedd y llywodraeth wedi gwrando ar ei gyngor dywedodd: "I ddefnyddio'r frawddeg enwog y dywedodd Edwina wrthai, 'Ti'n rhoi cyngor i fi ac rwy'n penderfynu beth sydd yn gweithio i fi yn wleidyddol'. Rwy'n parchu hynny."

Amddiffyn ei benderfyniad i ddod i gytundeb newydd gyda Pinewood wnaeth Ken Skates.

Dywedodd y byddai peidio gwneud cytundeb gyda'r stiwdio wedi achosi effaith negyddol.

"Mae hyn weithiau yn cael ei anghofio ynghanol y cwestiynau ynglyn a manylder y cytundebau," meddai.

Dywedodd hefyd fod y wasg yng Nghymru yn creu "penawdau negyddol" ynglyn 芒'r diwydiannau creadigol ac mai dim ond pan mae papurau newydd fel The Guardian a The Times yn "tanlinellu pa mor llwyddiannus yw'r diwydiannau creadigol" y mae newyddiadurwyr Cymru wedyn yn talu sylw.