Cynganeddu heb sylweddoli!

Ers mis Hydref 2016, mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury - neu Aneurig! - wedi bod yn cyflwyno ac yn cynhyrchu'r unig

Un o'r eitemau sydd wedi bod yn rhan o'r podlediad ers y cychwyn cyntaf yw Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis - hynny yw, llinellau cwbl anfwriadol o gynghanedd o unrhyw le, mewn unrhyw iaith. Gall wrandawyr anfon eu llinellau at y podlediad, a bydd Aneurig yn eu trin a'u trafod.

Dyma Eurig yn trafod rhai o'u hoff linellau anhygoel, ond cwbl ddamweiniol:

Disgrifiad o'r llun, Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury, gyda'r prifardd Gwion Hallam yn dal y ddau fyny

Does dim pall ar ryfeddod y gynghanedd. Unwaith y byddwch chi wedi cael syniad go lew o'r hyn yw cynghanedd, byddwch chi'n ei gweld ac yn ei chlywed hi ym mhob man.

Ac nid yn Gymraeg yn unig. Fel cynifer o ieithoedd eraill, mae'r iaith Saesneg wedi bod yn cynganeddu'n ddiarwybod iddi hi ei hun ers blynyddoedd - neu o leiaf ers i Scooby-Doo grochlefain 'Scooby Dooby Doo!' am y tro cyntaf.

Dwi a Nei [Karadog] bellach wedi recordio dros ugain o bodlediadau Clera, ac wedi trafod cannoedd o linellau cynganeddol.

Fel yn achos Scooby-Doo a'i gyfarthiad enwog, mae'r gynghanedd sain fel pe bai'n ei chynnig ei hun yn naturiol i ymadroddion poblogaidd yn yr iaith fain.

Mae arwyddair cynganeddol y cwmni bwyd m么r Young's - Make fish the dish of the day - yn enwog bellach, ond beth am y bragdy a hysbysebodd eu cwrw melyn fel hyn:

To set a man up for winter - beer is best

Disgrifiad o'r llun, Y Prifardd Jacob Rees-Mogg?

Gall y gynghanedd sain fod yn ddefnyddiol hefyd i ambell gnaf mewn twll, fel y profodd y swancyn Jacob Rees-Mogg yn ddiweddar ar y rhaglen Have I Got News for You, pan ddywedodd yn amddiffynnol:

I would if I could, but I can't.

A s么n am raglenni gwleidyddol, fe sylwodd @EmrysWeil, un o'n gwrandawyr mwyaf ffyddlon, ar gynghanedd groes gwbl ddiwastraff mewn trydariad yn ymateb i'r hyn a ddywedodd un o banelwyr hirben Question Time:

Well said, Will Self!

Llinell fachog debyg iawn yw'r un a gyfarchodd neb llai na'r prifardd Tudur Dylan Jones - er mawr lawenydd iddo, mae'n si诺r - wrth fynd i mewn i siop yng Nghaerfyrddin:

Welcome to Wilkos

Llawenydd a brofodd Gareth Lloyd James yntau hefyd wrth iddo gael ei lygad-dynnu gan gynghanedd draws yn y llinell enwog:

Wet T-shirt Competition

(Diolch ychwanegol i Gareth am wirfoddoli i ddarganfod beth yn union sy'n digwydd yn y cyfryw gystadleuaeth.)

Mae honno'n enghraifft wych o gynghanedd sy' wedi llechu'n dawel yn Saesneg ers blynyddoedd, ac felly hefyd un sy' wedi ei chlywed ar 大象传媒 Radio 4 bob bore Gwener ers 2006, pan benodwyd Kirsty Young yn gyflwynydd Desert Island Discs:

Kirsty Young's castaway

A s么n am gynganeddion sy'n llechu yng ngolau dydd, diolch i brifardd yr Urdd eleni, Osian Owen, am sylwi ar y gynghanedd lusg sy'n warthnod ar bob trydariad annerbyniol a ddilewyd erioed.

This tweet has been deleted.

Disgrifiad o'r llun, Cofiwch gynganeddu

Un o brifeirdd eraill yr Urdd, Iwan Rhys, a sylwodd ar y gynghanedd groes yn y sengl enwog a ryddhawyd yn 1974:

Remember you're a Womble

(Gall y craffaf yn eich plith sy' wedi sylwi nad yw'r 'm' yn cael ei hateb, ganu'n hapus 'Remember I'm a Womble'.)

Rhaid rhoi'r wobr am y nifer fwyaf o gynganeddion damweiniol mewn un llinell i Kate Wheeler, a sylwodd ar deitl llyfr o'r enw:

Eat To Beat Diabetes

Ceir yn y llinell bob un math o gynghanedd - sain, llusg, traws, croes a chroes o gyswllt!

Disgrifiad o'r llun, Gwilym Bowen Rhys: Cynganeddu'n Ffrangeg!

A throi at ieithoedd eraill, fe lonnodd Gwilym Bowen Rhys glyw'r Parisiaid yn ddiweddar pan ymholodd yn yr iaith leol:

Ou est le mus茅 de musique?

Yn Gymraeg, mae'n llawer anos profi fod cynghanedd yn ddamweiniol, wrth gwrs, gan fod y gynghanedd yn canu ym m锚r ein diwylliant ni.

Ond y mae rhai llinellau'n codi mewn sgwrs mor ddirybudd 芒 madarch hud. Go dda'r gyrrwr bws hwnnw a haerodd yng nghlyw Iwan Rhys fod Ieuan Wyn:

Isho relacsio 'r么l y lecsiwn.

Mae llawer i'w clywed ar yr awyr, ac yn arbennig felly o enau rhai o gyflwynwyr 大象传媒 Radio Cymru.

Owain Ll欧r, er enghraifft, a waeddodd fod y b锚l wedi mynd:

Dros ben yr ymosodwr o Sbaen.

Ac Al Huws, pan fynnodd un bore yn y gaeaf:

Does na'm eira'm Miwmares. (Diolch i Kate eto am sylwi ar honno).

Ac mae hyd yn oed y porthorion yn cynganeddu yn y 大象传媒, fel y tystiodd y prifardd Llion Jones pan ofynnwyd iddo cyn mynd i'r stiwdio:

Ydach chi 'di dod 芒 char?

Ar y llaw arall, mae'n amlwg fod cynganeddu'n ddamweiniol yn haint sy'n medru effeithio ar y rheini sy'n dod i gyswllt agos 芒 beirdd.

Disgrifiad o'r llun, Cynganeddu'n rhedeg yn y teulu?

Rhaid estyn cymdymdeimlad 芒 Laura, felly, sef gwraig Nei, am syrthio i'r fagl un diwrnod pan ddywedodd:

Mae Erwan druan yn drewi.

Ac mae'r llinell ddamweiniol olaf yn un a drawodd glustiau Nei wrth iddo sgwrsio 芒'r ffotograffydd Emyr Young ar y fferi i Lydaw'n ddiweddar, pan ddatgelodd Emyr sut i:

Neud enw i dy hunan.

Does ond dyfalu beth yn union oedd ei ateb, ond siawns fod llunio cynganeddion croes o gyswllt damweiniol yn rhan fawr ohoni!

Mae'n rhaid diolch i'n gwrandawyr gwych am fod 芒 chlustiau mor fain a llygaid mor graff, ac am fod mor barod i anfon eu llinellau aton ni.

Mae rhai'n gyfranwyr selog iawn, ac mae eu henwau'n codi fwy nag unwaith yn yr erthygl hon. Ond cofiwch fod croeso i unrhyw un gyfrannu llinell, a chael cyfle i fod yn bencampwr (damweiniol) yr eitem.

Beth well i'w roi ar CV nag Enillydd Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis?