大象传媒

Galw am broses dendro wedi penderfyniad morlyn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, PA

Mae datblygwyr sy'n gobeithio cael cefnogaeth Llywodraeth y DU i godi pwerdai ynni llanw yn dweud eu bod am barhau 芒'u cynlluniau, er gwaethaf penderfyniad i wrthod cynllun arloesol morlyn Bae Abertawe.

Wedi i'r Ysgrifennydd Ynni a Busnes, Greg Clark ddweud ei fod yn "frwd" ynghylch y dechnoleg pe bai modd rhoi gwerth am arian, mae un cwmni'n galw am sefydlu proses dendro gystadleuol.

Mae datblygwyr morlyn Abertawe, Tidal Lagoon Power's (TLP) yn ystyried eu camau nesaf wedi i'r cynllun 拢1.3bn gael ei wrthod.

Pe byddai wedi cael ei gymeradwyo, fe fyddai wedi profi'r dechnoleg gan arwain at forlynnoedd mwy nerthol, gan gynnwys rhai yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn.

Roedd adolygiad annibynnol wedi argymell codi'r morlyn ond dywedodd Llywodraeth y DU fod y cynllun yn rhy ddrud.

Mae datblygwyr eraill yn dweud eu bod yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa.

Buddiannau cost-effeithiol

Dywedodd Henry Dixon, cadeirydd North Wales Tidal Energy (NWTE) fod penderfyniad y llywodraeth yn un "anghywir" ond na fydd yn atal y cwmni rhag "parhau i ddatblygu a hybu" eu cynlluniau nhw.

Mae'n dweud y byddai cynllun NWTE i godi lag诺n gwerth 拢7bn rhwng Llandudno a Thalacre yn Sir Y Fflint yn fwy na chynllun Abertawe, yn cynhyrchu mwy o ynni a refeniw, ac yn fanteisiol o ran atal llifogydd a gwarchod yr arfordir.

Mae'r cwmni, meddai Mr Dixon, yn croesawu gwahoddiad Mr Clark i drafod gyda'i adran ac i amlygu'r "buddiannau cost-effeithiol niferus... i ogledd Cymru a gweddill y wlad".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Greg Clark ei fod yn 'frwd' ynghylch cyflwyno technolegau adnewyddadwy pan gyrhaeddan nhw lefel 'gystadleuol'

Yn 么l gwrthwynebydd blaenllaw i gynlluniau TLP, mae gofyn i weinidogion osod amserlen i ddatblygwyr gynnig prosiectau, yn y gobaith y byddai costau'n gostwng o ganlyniad cystadleuaeth.

Mae Dale Vince - sylfaenydd Ecotricity, un o ddarparwyr ynni adnewyddadwy mwyaf y DU - yn credu y gallen nhw godi morlynnoedd rhatach yn Aber Solway, ar y ffin rhwng Cumbria a'r Alban. Yn wahanol i gynllun TLP, fe fyddai eu lag诺ns ymhell o'r lan.

Dywedodd Mr Vince bod cost cynhyrchu ynni o ffermydd gwynt yn y m么r wedi haneru yn y tair blynedd diwethaf wrth i gwmn茂au gystadlu am nawdd y llywodraeth trwy'r broses 'Contracts For Difference', ac mae'n galw am gytundebau tebyg yn achos morlynnoedd.

Mae'n gobeithio y byddai proses dendro yn arwain at "bris y byddai'r llywodraeth yn fodlon talu am lag诺ns, a fyddai'n llawer is na phris Bae Abertawe."

'Penderfynol'

Dywedodd prif weithredwr TLP, Mark Shorrock, fod y cwmni a'u cefnogwyr yn "benderfynol" o wireddu cynllun Bae Abertawe ac yn dechrau edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud hynny.

Yn 么l Shea Buckland-Jones o'r Sefydliad Materion Cymreig, mae "cyfle anferthol" wedi'i golli, a bod angen y cymysgedd ehangaf bosib o ynni adnewyddadwy i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power

Eglurdeb gan Lywodraeth y DU sydd angen bellach, medd David Jones, cyfarwyddwr prosiect gyda chynrychiolwyr y sector, Ynni Morol Cymru.

"Bydd ynni morol yn dilyn esiampl gostyngiad cost ynni gwynt yn y m么r, a bydd cwmn茂au a chymunedau'n elwa," meddai.

Dywedodd Mr Clark wrth 大象传媒 Cymru y byddai'n parhau i ariannu ymchwil i dechnolegau adnewyddadwy, a'i fod yn barod i wrando ar syniadau da.

"Mae gyda ni gyfrifoldeb i sicrhau nad ydy biliau defnyddwyr a threthdalwyr yn codi'n ddychrynllyd," meddai.

"Rydym eisiau cael y technolegau yma i lefel gystadleuol ac rydym yn frwd yngl欧n 芒'u cyflwyno pan gyrhaeddan nhw'r lefel yna."