大象传媒

Rhybudd am achosion o losg haul difrifol

  • Cyhoeddwyd
Greg BinnieFfynhonnell y llun, twitter/grgbinnie
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Ysbyty Treforys, mae llosgiadau difrifol yn achosi swigod ar y croen, sydd angen cael eu trin yn ofalus

Mae uned sy'n arbenigo mewn trin llosgiadau i'r croen yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus yn yr haul ar 么l iddyn nhw weld cynnydd yn y nifer sy'n gorfod cael triniaeth am losg haul difrifol.

Dros y pedair wythnos diwethaf mae saith o bobl, y mwyafrif yn blant, wedi gorfod aros yn Uned Gofal Llosgiadau Difrifol Ysbyty Treforys er mwyn cael triniaeth am losg haul, gyda'r mwyafrif o achosion yn rhai o "losgi haul dwfn, difrifol".

Dywedodd Adran Ddamweiniau Ysbyty Treforys bod nifer cynyddol yn dod drwy eu drysau yn chwilio am gymorth o ganlyniad i losg haul, ac nad yw pobl yn sylweddoli bod yr haul yng Nghymru yn gryf.

Mae'r ysbyty yn gofyn i bobl gymryd camau priodol i warchod eu crwyn.

Cyngor i bawb

Dywedodd Matron yr Uned Llosgiadau, Clare Baker: "Mae hi mor bwysig i warchod eich croen yn yr haul... rhaid rhoi eli haul yn aml, a chofio os ydych chi'n chwysu, mi fydd yn dod i ffwrdd, a bydd rhaid rhoi mwy ymlaen.

"Rydyn ni'n gweld yr achosion mwyaf difrifol yn fan hyn, ond fe fydd llawer mwy o bobl gyda llosg haul sy'n cael eu trin gan eu meddyg teulu, ac sydd ddim yn cael eu cyfeirio aton ni."

Fe rybuddiodd hi fod gan bobl sy'n dioddef llosg haul fwy o siawns o ddatblygu canser y croen yn y dyfodol.

Mae'r ysbyty yn gofyn i bobl sicrhau eu bod yn rhoi eli haul ar eu crwyn, ac i wisgo het, crys a sbectol haul er mwyn rhwystro llosgi.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai'r tywydd sych a chynnes bara am o leiaf pythefnos arall.