大象传媒

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau 拢5m i neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Pantycelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i Neuadd Pantycelyn ail agor ym Medi 2019

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydden nhw'n cyfrannu 拢5m at brosiect adnewyddu neuadd Pantycelyn.

Fe fydd y neuadd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ei newydd wedd yn cynnwys 200 o ystafelloedd gwely en-suite a llefydd i gymdeithasu.

Cafodd yr hen neuadd - fu'n darparu llety i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg - ei chau yn 2015 er gwaethaf gwrthwynebiad rhai myfyrwyr.

Daeth cadarnhad gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan AC, wrth iddi ymweld 芒'r neuadd breswyl a gweld cynlluniau'r prosiect gan bwysleisio "pwysigrwydd Pantycelyn i siaradwyr Cymraeg".

'Miliwn o siaradwyr Cymraeg'

Mae'r pecyn arian yn cynnwys 拢5m sydd wedi cael ei glustnodi o raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Roedd yr arian yna wedi ei addo ym mis Tachwedd 2017, ond ddydd Iau daeth y cadarnh芒d y bydd y 拢5m yn dod i'r cynllun, sy'n werth 拢12m.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y neuadd newydd eu cyflwyno yn gynharach eleni a'r bwriad yw agor y neuadd ym Medi 2019.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Penseiri Lawray
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gan y neuadd newydd 200 ystafell wely, fydd i'w cael dros dri llawr

Mae Neuadd Pantycelyn wedi bod yn llety cyfrwng Cymraeg penodedig ers 1974 ac yn symbol ar gyfer diwylliant Cymraeg yn y maes Addysg Uwch.

Ychwanegodd Ms Morgan: "Mae'n adeilad eiconig i gynifer o bobl o bob rhan o Gymru a'r byd, felly rwy'n hynod falch i allu cadarnhau'r cyllid o 拢5 miliwn a fydd yn sicrhau bod llawer mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn gallu ei galw'n gartref iddynt a phrofi ei hawyrgylch ieithyddol a diwylliannol unigryw.

"Rydyn ni wedi pennu targed heriol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Rwy wedi dweud sawl gwaith fod addysg yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw - ac mae hynny'r un mor wir am addysg uwch ag ydyw am ysgolion cynradd.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynlluniau cyffrous i ailagor Pantycelyn yn llety o'r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr Cymraeg.

"Mae Aberystwyth yn cynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr sy'n dymuno dysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe fydd adnewyddu'r adeilad hanesyddol hwn yn atgyfnerthu ymhellach ddyfnder ac ehangder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg."