大象传媒

'Gwerth ariannol' i brosiect cerdd yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Drymio yng nghyngerdd Codi'r ToFfynhonnell y llun, Codi'r To

Mae gwerthusiad economaidd o brosiect cerddorol yng Ngwynedd yn dweud ei fod wedi dod 芒 gwerth economaidd a chymdeithasol aruthrol.

Yn 么l dadansoddiad gan Brifysgol Bangor, fe wnaeth pob 拢1 gafodd ei wario ar brosiect 'Sistema Cymru - Codi'r To' gynhyrchu gwerth 拢6.69 o fudd i'r gymdeithas.

Bwriad y prosiect yw meithrin sgiliau cerddorol a chymdeithasol mewn ysgolion mewn ardaloedd dan anfantais, gan gydweithio gyda phlant ysgol, eu teuluoedd a'u cymunedau.

Mae'r cynllun wedi bod yn ymweld ag Ysgol Glan Cegin ym Mangor ac Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon, gyda'r bwriad o annog disgyblion o 3 i 11 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol a dysgu chwarae offerynnau.

Ffynhonnell y llun, Codi'r To

Mae'r cynllun yn dilyn patrwm prosiectau El Sistema a gafodd eu datblygu yn Venezuela ac sy'n cael ei ddefnyddio dros y byd.

Yn ogystal 芒 gwahodd tiwtoriaid cerdd i mewn i'r ysgolion, mae cyngherddau a gweithgareddau yn cael eu cynnal yn y gymuned ehangach.

Y gobaith yw hybu sgiliau ymarferol fel cydweithio a chyfathrebu yn ogystal 芒 sgiliau cerddorol.

Ffynhonnell y llun, Codi'r To
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad y prosiect cerddorol yw rhoi cyfle i blant ifanc fagu hyder wrth berfformio a chydweithio gyda'i gilydd

Magu hyder a gwella ymddygiad

O roi gwerth ariannol ar weithgareddau'r cynllun, dywedodd ymchwilwyr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor ei fod yn dod 芒 budd sylweddol.

Aeth ymchwilwyr CHEME hefyd ati i gyfweld 芒 50 o rieni, gyda 92% ohonynt yn dweud bod hyder eu plant wedi cynyddu a 84% yn dweud bod ymddygiad y plant tu hwnt i'r ysgol wedi gwella.

Yn ogystal 芒 hynny, dywedodd 70% o'r rhieni gafodd eu cyfweld eu bod yn teimlo bod ganddynt berthynas well gyda'r ysgol oherwydd y prosiect.

Ffynhonnell y llun, Codi'r To
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion ysgol o saith oed ymlaen yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Eira Winrow: "Mae Codi'r To yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol o rhwng 拢4.59 a 拢8.95 am bob punt a fuddsoddir.

"Fel y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn wynebu toriadau pellach i'w cyllidebau, mae parhau'r ddarpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn dod yn fwy o her.

"Dyma'r dadansoddiad SROI gyntaf yng Nghymru sy'n dangos effaith positif cerddoriaeth mewn ysgolion, a'r gwerth mwy eang sy'n cael ei greu drwy raglenni fel Codi'r To."