Adroddiad yn 'taflu goleuni' ar ward iechyd meddwl

Ffynhonnell y llun, Google

Mae adroddiad ar ward dementia yn y gogledd, sydd wedi dod i ddwylo'r 大象传媒, wedi taflu goleuni pellach ar yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal.

Daw hyn yn dilyn cau uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2013.

Daeth adroddiad ar ward Bryn Hesketh ym Mae Colwyn, gafodd ei ysgrifennu yn 2016, i'r casgliad fod yna ddiffyg arweinyddiaeth glinigol a th卯m rhanedig yno.

Ond cafodd honiadau o gam-drin eu gwadu, a dywedodd penaethiaid y gallai teuluoedd fod yn hyderus yn y ward.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn paratoi i glywed cynnwys adroddiad ddydd Iau i'w llywodraethiant a'r ffordd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal yn cael eu rhedeg.

'Diffygion'

Cafodd t卯m o ymchwilwyr eu galw i Fryn Hesketh yn dilyn honiadau gan achwynydd am ofal cleifion.

Cafodd chwe aelod o staff eu gwahardd pan lansiwyd yr ymchwiliad, ond chafodd yr un o'r cyhuddiadau o gam-drin yn eu herbyn eu cynnal.

Fe ddangosodd yr adroddiad gan d卯m o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref 2016 a'i drosglwyddo i 大象传媒 Cymru, ddiffygion fodd bynnag.

Roedd gan un claf gleisiau a oedd, yn 么l pob tebyg, wedi datblygu ar y ward.

Yn ystod archwiliad pellach, daeth i'r amlwg fod maneg rwber wedi ei gadael ym mhen-么l y claf.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd adroddiad Bryn Hesketh ei alw dair blynedd wedi i'r pryderon am uned Tawel Fan ddod i'r amlwg

Methodd ymchwilwyr 芒 chael eglurhad gan staff am y faneg, ac fe ddywedon nhw nad oedd cynllun gofal wedi ei lunio ar 么l i'r cleisiau ddod i'r amlwg.

Fodd bynnag, nododd yr ymchwiliad eu bod yn fodlon fod y claf wedi cael y driniaeth briodol i friwiau ar ei choesau, ac nad oedd wedi ei hesgeuluso.

Mewn achos arall, mynegodd ymchwilwyr bryder fod cadeiriau arbennig wedi eu defnyddio i gyfyngu ar symudiadau cleifion - gydag ystolion yn cael eu gosod o dan draed unigolion i'w hatal rhag codi o'r cadeiriau.

Mewn achos arall o gam-drin corfforol honedig, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod camau i atal claf ymosodol wedi eu cyfiawnhau.

Serch hynny, dywedodd ei bod hi'n ymddangos nad oedd staff yn deall y gweithdrefnau a'r cynlluniau wrth atal cleifion.

'Rhegi a dadlau'

Cododd yr ymchwiliad nifer o bryderon pellach am ymddygiad staff.

Nododd fod rhai staff yn gyndyn i ateb cwestiynau, gan ddisgrifio'r diwylliant roedden nhw'n gweithio ynddo fel un "caeedig".

Daeth o hyd i enghreifftiau o staff yn rhegi ar ei gilydd, dadleuon ar y ward, a staff yn smocio y tu allan i ffenestri ystafelloedd y cleifion.

Roedd yna rwyg rhwng staff y ward, medd yr adroddiad, a arweiniodd at ddosrannu dyletswyddau'n "annheg" gan effeithio ar for芒l staff.

"Mae angen canllawiau a ffiniau clir yng nghyd-destun ymddygiad staff at ei gilydd yn y gweithle, a rhaid cyflwyno'r rhain," nododd yr adroddiad.

'Achos pryder'

Dywedodd prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli cleifion yn y rhanbarth, wrth 大象传媒 Cymru fod cynnwys yr adroddiad yn achos pryder mawr.

"Yr hyn sy'n fy nharo i yw pa mor debyg yw hyn i brofiadau'r teuluoedd a gwynodd am Tawel Fan," meddai Geoff Ryall-Harvey.

"Wrth edrych drwyddo, mae rhai o'r honiadau yr union yr un fath.

"Roedd hyn ddwy flynedd yn 么l - a bron i dair blynedd ar 么l i Tawel Fan gael ei ddarganfod, mae'n achos pryder mawr, mawr."

Roedd yr adroddiad hwnnw'n honni fod cleifion yn yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd wedi eu cadw "fel anifeiliaid" cyn iddo gau.

Ond gwrthododd adroddiad gafodd ei gyhoeddi fis Mai bod yr hyn ddigwyddodd yno gyfystyr 芒 cham-drin sefydliadol o'r cleifion.

Galwodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru am arolwg newydd i Fryn Hesketh fis Tachwedd y llynedd.

Daeth i'r casgliad fod gwelliannau sylweddol wedi eu cyflwyno yn yr uned, yn enwedig o ran arweiniad a chefnogaeth i staff, a bod yno "weithlu ymroddedig a phenderfynol a oedd eisiau darparu'r gofal gorau posib".

Fodd bynnag, roedd yna rybudd fod staffio anghyson wedi effeithio ar allu'r ward "i roi'r gofal mwyaf diogel ac effeithiol".

Mae diweddariadau i adroddiad yr arolwg yn nodi fod y bwrdd iechyd bellach wedi mynd i'r afael 芒'r rhan fwyaf o'r pryderon oedd yn dal i fodoli.

Mae 拢500,000 wedi ei wario ar y ward er mwyn ei gwneud yn fwy cyfeillgar i bobl sydd 芒 dementia.

Ennill gwobr

Ym mis Mai fe enillodd y clinig cof, sy'n cael ei drefnu gan y ward, wobr T卯m Iechyd Meddwl y Flwyddyn gan y British Medical Journal.

Wrth ymateb i gasgliadau'r adroddiad, cadarnhaodd y bwrdd iechyd fod pob un o'r camau disgyblu yn yr achosion dan sylw bellach wedi dod i ben.

"Gall pobl fod yn hyderus y bydd eu hanwyliaid sy'n dod i Fryn Hesketh yn cael gofal o'r safon uchaf, wedi ei ddarparu gan staff sydd wedi eu hyfforddi mewn amgylchedd cefnogol i gyflwr dementia," meddai llefarydd.

"Mae gwelliannau i'r safonau gofal ar ward Bryn Hesketh wedi eu nodi mewn adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, roddodd cydnabyddiaeth i arweiniad cryf ac ymroddiad y staff."