Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfarfod i drafod dyfodol T诺r y Marcwis ar Ynys M么n
Mae gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn ymgyrchu i ailagor a datblygu un o atyniadau amlycaf Ynys M么n yn cynnal cyfarfod i geisio denu cefnogaeth i'r cynllun.
Cafodd Colofn y Marcwis ger Llanfairpwll, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ei chau yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau yn beryglus.
Yn ystod y cyfarfod nos Fercher bydd cyfle i'r gwirfoddolwyr rannu eu syniadau a'u gweledigaeth ar gyfer y t诺r gyda phobl yr ardal.
Yn 么l cynghorydd sir lleol, Alun Wyn Mummery, mae angen i bobl yr ardal "gefnogi unrhyw gynllun i adfywio'r t诺r" gan ei fod yn "un o strwythurau mwyaf eiconig yr ynys".
'T诺r eiconig'
Cafodd T诺r y Marcwis ei adeiladu yn 1817 fel cofeb yn dilyn cyfraniad Marcwis cyntaf M么n ym Mrwydr Waterloo.
Hyd at gau'r atyniad, bu ymwelwyr a thrigolion lleol yn gallu dringo'r 115 gris i fyny'r t诺r i fwynhau golygfeydd panoramig o ogledd-orllewin Cymru, yn cynnwys Eryri, Ynys M么n a Phen Ll欧n.
Dywedodd y Cynghorydd Mummery wrth Cymru Fyw ei fod yn gobeithio y bydd pobl leol yn cefnogi unrhyw gynllun fydd yn cael ei gynnig i adfywio'r t诺r.
"Mae o'n eiconig i'r bobl, ac mae o wedi bod yma ers cymaint o flynyddoedd. Ac mae 'na gymaint o bobl wedi bod yn ymweld 芒'r pentref 'ma," meddai.
"Ac wrth gwrs, mae hwn, pan ydych chi'n dod dros y bont, yn un o'r pethau cyntaf sy'n taro'ch llygaid chi."
Amcanbris o 拢200,000
Mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am y t诺r yn amcangyfrif y bydd y gwaith adfer yn costio dros 拢200,000, ac fe gafodd ymgyrch ei sefydlu i gyrraedd y targed hwnnw yn 2017.
Dywedodd y Cynghorydd Mummery fod Marcwis presennol yr ynys wedi ei ddewis yn gadeirydd ar yr ymddiriedolaeth newydd.
"Mae'r ffaith fod y t诺r wedi bod ar gau ers cymaint o amser r诺an yn bryder mawr i'r trigolion yma," meddai.
"Erbyn r诺an, mae 'na lot o'r plant sy'n byw yn y pentref, neu wedi eu magu yn y pentref heb fod yn dop y t诺r.
"Ac mae hynny, mewn ffordd yn golled fawr iddyn nhw, yn eu magwraeth 'swni yn ddweud."
Fe fydd y digwyddiad galw heibio yn cael ei gynnal rhwng 17:30 a 20:00 nos Fercher ym Mhlas Newydd ar yr ynys.