Fy ngharaf谩n i: Angharad Mair
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n mynd 芒'r garaf谩n i'r Eisteddfod yr wythnos nesa'? Mae'r ddarlledwraig Angharad Mair, sy'n garafaniwr Eisteddfodol brwd, wedi pacio'n barod i anelu am Gaerdydd.
Dyma ambell i air o gyngor ar beth i bacio a sut i wneud y mwya' o wythnos yn y Brifwyl ar y maes carafanau...
Rydyn ni wedi cael caraf谩n newydd eleni. Mae pob caraf谩n rydyn ni wedi ei chael yn adlewyrchu cyfnod newydd mewn bywyd...
Erbyn hyn mae Tanwen ac Efa yn 18 ac 16 oed, ond pan oedd y merched yn fach, roedd yna ddau wely bync yng nghefn y garaf谩n a fi a Joni y g诺r yn cysgu yn y blaen.
Yna wrth i'r merched fynd yn h欧n roedd yna ddau wely plentyn. Roedden ni'n gallu cau'r drws a doedd s诺n y part茂on ddim yn dihuno'r plant.
Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd cyfnod sy'n eitha' anodd i fi gyda'r merched wedi tyfu fyny, felly gwely dwbwl sydd yn y cefn wedi ei osod yn barod, a'r merched sy'n cysgu ar welyau ym mlaen y garaf谩n - rhag ein distyrbo ni ar 么l iddyn nhw ddod n么l yn hwyr o'r gigs!
Un tip mawr gen i wrth bacio'r garaf谩n ar gyfer yr Eisteddfod yw i fynd 芒 blancedi fleece.
Maen nhw'n gr锚t i roi ar y gwely os mae'n oer, hefyd i wisgo fel blanced drostoch chi yn y nos os ydych chi'n eistedd allan yn yr adlen neu'n cael barbeciw tu fas gyda ffrindiau. Maen nhw'n rhad ac yn lliwgar.
Rydw i'n hoffi rhoi goleuadau lliwgar a lanterni solar tu fas, maen nhw'n edrych yn bert ond hefyd er mwyn dangos lle mae'r garaf谩n yn y tywyllwch.
Mae aros yn y garaf谩n adeg y Steddfod yn rhywbeth cymdeithasol iawn i fi. Er mod i'n byw tua chwarter awr o'r maes eleni, dwi'n dal yn mynd 芒'r garaf谩n. Mae bob amser criw mawr yn yr adlen neu yn y garaf谩n gyda'n gilydd.
Dyna beth yw Steddfod i fi, bod gyda ffrindiau. Mae'n gyfle i fi a chriw coleg gael aduniad hefyd.
Mae'n teimlo'n gwmws yr un peth 芒 mynd i 'stafelloedd ein gilydd pan o'n ni'n y coleg, er bod dros 30 mlynedd wedi mynd, mae'n teimlo fel ddoe.
Os oes bore rhydd yn ystod yr wythnos, mae cael coffi a chloncan yn y garaf谩n yn hyfryd - mae digon o le yma i ddal lan 芒 hen ffrindiau.
Fy nghyngor i wrth bacio dillad ar gyfer wythnos Steddfod yw i bacio popeth at bob tywydd.
Lot o ddillad lliwgar, a lot o layers: fest, crys, siwmper, siaced, cot law a wellies... ac wrth gwrs pyjamas. Steddfod yw'r unig le mae pawb yn gweld ei gilydd mewn pyjamas!
Mae angen pob math o 'sgidiau hefyd, i fi, rhai ar gyfer gwaith a rhai mwy ymarferol.
Does dim angen llond oergell o fwyd arnoch chi wythnos Steddfod. Ychydig bach o gaws a gwin, olives a 辫补迟茅 i fwynhau yn y nos. Hefyd llaeth a sudd oren ar gyfer y bore wedyn.
Dydy'r ffwrn yma erioed wedi cael ei defnyddio! Yr unig goginio sy'n digwydd wythnos y Steddfod yw ambell i farbeciw os mae'r tywydd yn braf.
Dwi'n lico addurno'r garaf谩n gyda goleuadau lliwgar, bunting a blancedi lliwgar, a dyma lle dwi a fy ng诺r Joni yn cwympo mas.
Dwi'n eu gosod nhw a mae e'n eu tynnu nhw lawr! Mae e'n meddwl mod i'n rhoi gormod o bethau lan, a dwi'n eu hoffi nhw - ond mae'n rhaid cael cyfaddawd.
Mae croeso am baned neu brosecco yma.
Mae'r teledu yn bwysig iawn yn y garaf谩n, yn enwedig yn ystod wythnos y Steddfod i gael gwylio rhaglen yr uchafbwyntiau yn y nos.
Mae pawb yn brysur iawn yn ystod y dydd, ond rhyw ben bob nos mae pawb wedi dod n么l i'r garaf谩n ar 么l gwaith neu gyngerdd, ac fe wnawn ni eistedd yn gwylio'r Steddfod.
Hefyd o ddiddordeb: