Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen buddsoddi' i hyfforddi criwiau ffilm a theledu
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 大象传媒 Cymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau ar gyfer criwiau ffilm a theledu er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gynaliadwy, yn 么l cynhyrchydd blaenllaw.
Jane Tranter yw prif swyddog gweithredol Bad Wolf, cwmni sydd newydd ddechrau ffilmio un o ddram芒u mwyaf Prydain yng Nghaerdydd.
Dywedodd Ms Tranter, oedd hefyd yn gyfrifol am ddod 芒'r gwaith o gynhyrchu cyfres Doctor Who i Gaerdydd yn 2005, fod yn rhaid i strategaeth y llywodraeth symud "i'r cam nesaf".
Yn 么l Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi a datblygu diwydiannau creadigol Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ariannu mentrau i ddatblygu lefelau sgiliau pobl o fewn y diwydiant.
Sefydlodd Ms Tranter stiwdio Bad Wolf yn 2015 gyda'i phartner busnes Julie Gardner.
Mae eu stiwdio yn Sblot, Caerdydd wedi cynhyrchu cyfres A Discovery of Witches ar gyfer Sky, ac mae'r gwaith o ffilmio addasiad teledu o lyfrau Philip Pullman, His Dark Materials ar y gweill.
Datblygu sgiliau
"Dwi'n credu bod yr hyn mae'r llywodraeth wedi ei wneud gyda'r diwydiannau creadigol yn wych," meddai Ms Tranter.
"Mae wedi bod fel cicio'r drws led y pen gyda ph芒r o f诺ts mawr llawn hoelion.
"Mae cael y cynyrchiadau yma, annog pobl i ddod i weld sut brofiad yw ffilmio yng Nghymru wedi bod yn rhagorol. Ond mae'n amser nawr i symud ymlaen at gam nesaf y strategaeth."
Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth fuddsoddi arian o fewn y diwydiant ar lawr gwlad.
Mae pwyslais Ms Tranter ar ddatblygu sgiliau yn cael ei ategu gan Hannah Thomas, cynhyrchydd yn Severn Screen, cwmni o Gaerdydd oedd yn gyfrifol am y ddrama Craith sydd wedi ei darlledu ar S4C a 大象传媒 Four.
"Mae'r sector yn aeddfedu ac mae hyder pobl yng Nghymru wedi tyfu dros ddegawd a mwy," meddai.
"Yn sicr mae eisiau mwy o bobl i ddysgu mwy o sgiliau.
"Mae'r criw sydd gyda ni'n barod yn ffantastig, er enghraifft naethon ni greu ffilm wreiddiol ar gyfer Netflix y llynedd ac mi oedd y criw'r un mor dda ag unrhyw griw y basa chi'n cael yn America neu ar draws y byd.
"Felly mae'r sgiliau sydd gan bobl yng Nghymru yn wych ac mae'n bwysig ein bod ni'n tyfu ar hynny os mae'r diwydiant yn mynd i barhau i ddatblygu a thyfu - mae'n angenrheidiol bod ni'n cael pobl newydd yn dod fewn i'r diwydiant."
Cymru Greadigol
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y galw am griw a thimau cynhyrchu Cymru bellach yn uchel iawn ac yn parhau i godi.
"Er mwyn cwrdd 芒'r galw hwn, ry'n ni sefydlu Cymru Greadigol, asiantaeth lywodraethol fydd yn hybu twf pellach yn ein sector diwydiannau creadigol," meddai Mr Skates.
"Bydd yn adolygu a gwella'r ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru ar bob lefel."
Mae sawl cyd-gynhyrchiad yn Gymraeg a Saesneg gan S4C a 大象传媒 Cymru wedi cael eu darlledu ar sianeli rhwydwaith.
Dros yr wythnosau diwethaf mae gwylwyr ledled y DU wedi bod yn gwylio Un Bore Mercher/Keeping Faith a Craith/Hidden, ar 么l i gynulleidfaoedd yng Nghymru eu gweld yn gynharach eleni.
Yn ogystal 芒 llwyddiant cyfresi blaenorol fel Y Gwyll/Hinterland, mae adolygiadau disglair iawn o fewn y wasg Brydeinig wedi sefydlu'r syniad bod Cymru'n gartref y ddrama dywyll neu'r ddrama noir.
'Oes aur'
Yn 么l Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, roedd dewis Caerdydd fel y lleoliad i adfywio cyfres Doctor Who yn 2005 wedi cyfrannu at lwyddiant cyfredol y diwydiant teledu.
"Dwi'n meddwl bod hwn yn oes aur. Os 'dach chi'n edrych ar yr arlwy drama ar hyn o bryd Hidden, Keeping Faith, Requiem... does 'na 'run cyfnod yn hanes datblygiad y cyfryngau yng Nghymru lle mae 'na gymaint o brosiectau mawr ac uchelgeisiol yn digwydd."
Dywedodd ei fod am weld Cymru fel un o'r cenhedloedd mwyaf creadigol yn Ewrop ac ychwanegodd bod yn rhaid sicrhau bod y sgiliau a'r talentau ar gael yma.
"Dwi ishe gweld Cymru ar y sgrin. Dwi'n meddwl bod gyda ni actorion gwych, sgwenwyr gwych a dwi ishe gweld eu hymdrechion nhw o ran adlewyrchu Cymru gyfoes yn cael eu mwynhau ymhob cwr o'r byd," meddai.