Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd o sifftiau meddyg tu hwnt i oriau arferol yn wag
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru
Mae byrddau iechyd Cymru wedi methu a llenwi cannoedd o sifftiau meddygon teulu y tu hwnt i oriau arferol (THOA) yn ystod y gaeaf diwethaf, yn 么l ymchwil 大象传媒 Cymru.
Roedd hynny'n golygu fod rhai byrddau iechyd wedi methu a chynnig unrhyw feddyg teulu, unrhyw le yn eu hardaloedd, ar adegau penodol rhwng Hydref llynedd a Mawrth eleni.
Mae cyrff sy'n cynrychioli meddygon teulu wedi rhybuddio am brinder staff, gydag un corff yn galw ar y llywodraeth a byrddau iechyd i weithredu i wella'r sefyllfa.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod arolwg cleifion diweddar yn bositif, ond eu bod yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i wella'r gwasanaeth.
'Cleifion yn teimlo'r effaith'
Mae'r ymchwil yn dangos fod rhai cleifion wedi wynebu oedi sylweddol cyn cael triniaeth, gyda nifer o fyrddau iechyd yn methu eu targedau'n llwyr.
Ar rai achlysuron bu'n rhaid i gleifion ddisgwyl dros 24 awr i feddyg teulu ymweld 芒'u cartref neu i gael apwyntiad mewn canolfan y tu hwnt i oriau arferol.
Manylion Hydref 2017 - Mawrth 2018
Fe gafodd y wybodaeth ei ddatgelu yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru i holl fyrddau iechyd Cymru.
Caerdydd a'r Fro
- Wedi methu a llenwi 5,597 o oriau sifftiau meddygon teulu THOA;
- Ar 12 achlysur doedd dim darpariaeth meddyg teulu THOA unrhyw le o fewn y bwrdd iechyd;
- Bu'n rhaid cau'r gwasanaeth yn gyfan gwbl ar Noswyl Nadolig a 30 Rhagfyr oherwydd galw aruthrol;
- Ym mis Rhagfyr roedd 28% o sifftiau yn wag;
- Un claf yn aros 30 awr am ymweliad cartef.
Aneurin Bevan
- Tua 2,300 o oriau heb eu llenwi;
- Dim darpariaeth meddygon teulu THOA am o leia hanner awr ar 27 achlysur dros 6 mis - cyfanswm o 53 awr 19 munud;
- Rhwng 17-21 Chwefror - mwy na 50% o sifftiau yn wag.
Abertawe Bro Morgannwg
- Tua 3,000 oriau heb eu llenwi yn ogystal 芒 1,456 awr ychwanegol yn dilyn penderfyniad i gau canolfan yn Ysbty Castell-nedd Port Talbot dros nos;
- 19% o sifftiau'n wag dros gyfnod o 6 mis;
- Dim darpariaeth am o leiaf tair awr ar 4 achlysur;
- 10 cwyn gan weithwyr iechyd wedi eu derbyn.
Betsi Cadwaldr
- 2,082 o oriau heb eu llenwi;
- 13.5% o sifftiau yn wag ym mis Ionawr.
Hywel Dda
- Tua 1,500 o oriau heb eu llenwi;
- Ar 4 Mawrth dim ond 1 o 8 shifft yn y ganolfan yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli yn llawn;
- Claf wedi aros bron 24 awr am apwyntiad mewn canolfan THOA.
Ni wnaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ymateb i'r cais am wybodaeth am rotas y tu hwnt i oriau arferol ar sail cost.
Dyw Bwrdd Iechyd Powys heb ymateb oherwydd bod gwasnaethau y tu hwnt i oriau arferol yn cael eu ddarparu gan gyrff eraill - Shropshire Doctors a Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Mae cyrff sy'n cynrychioli meddygon teulu wedi dweud yn gyson fod prinder staff y tu hwnt i oriau yn golygu fod y sefyllfa'n argyfyngus.
Yn 么l Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu dylai Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd gymryd pum cam "hanfodol a chyraeddadwy" i wella gwasanaethau y tu allan i oriau gwaith.
Mae'r pum cam yn cynnwys cynyddu nifer o atebwyr ffon, gwella defnydd o dechnoleg a rhoi gwell gyngor i'r rhai sy'n gweithio'n y gwasanaeth.
Dywedodd Cadeirydd y Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, Dr Rebecca Payne: "Dydy gofynion cleifion ddim yn stopio pan fo meddygfeydd yn cau, ond mae tystiolaeth gynyddol fod cael mynediad at wasanaethau allan o oriau yn anodd.
"Mae meddygon teulu yn mynd tu hwnt i'r galw i geisio gwneud i bethau weithio, ond dydy'r gefnogaeth ddim yno ac mae'r cleifion yn teimlo'r effeithiau."
Ym mis Ionawr awgrymodd arolwg gan 大象传媒 Cymru fod nifer helaeth o feddygon teulu yn rhy flinedig i ymgymryd 芒 gwaith y tu hwnt i oriau arferol
Ym mis Mai rhybuddiodd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru fod gwasanaethau y tu hwnt i oriau arferol yn "fregus".
'89% yn hapus'
Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Gorffennaf nad oedd gwasanaethau yn cyrraedd safonau cenedlaethol oherwydd problemau staffio ac oherwydd bod staff yn digalonni.
Er dywedodd yr adroddiad fod y cyhoedd ar y cyfan yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gofal ar gyfer gofynion cleifion y tu allan i oriau, ac i wneud y gorau allan o bobl sydd 芒'r cymwysterau proffesiynol addas.
"Er bod arolwg cleifion diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos fod 89% o'r rhai wnaeth ymateb yn graddio'r gwasanaeth fel un gwych, rydym yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i wella'r gwasanaeth tu allan i oriau ymhellach."