Ymgyrch i ddenu mwy o ddigwyddiadau i safle Sioe M么n

Disgrifiad o'r llun, Mae Sioe M么n yn cael ei chynnal ar safle 136 erw ger Gwalchmai
  • Awdur, Nia Thomas
  • Swydd, 大象传媒 Radio Cymru

Mae trefnwyr Sioe M么n yn dechrau ymgyrch o'r newydd i geisio denu mwy o ddigwyddiadau i'r safle drwy gydol y flwyddyn.

Yn 么l cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol M么n mae 'na bwyllgor codi arian hefyd wedi'i ailsefydlu er mwyn talu am fwy fyth o gyfleusterau parhaol ar y maes.

Dywedodd Ieuan Williams wrth raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru: "Eleni mae 'na floc toiledau a chawodydd newydd wedi ei gwblhau yn ogystal ag ardal newydd i drin gwartheg.

"Be' 'da ni yn ceisio ei wneud ydy denu mwy o bethau yma ar wah芒n i gynnal y Primin ym mis Awst."

Hyd at 60,000 o ymwelwyr

Cafodd safle presennol 136 erw y Primin ger Gwalchmai ei brynu gan y gymdeithas yn yr 1970au, ac ers hynny mae sawl adeilad parhaol wedi'i godi ar y maes.

Mae Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi'u cynnal ym Mhafiliwn M么n ar y safle.

Mae disgwyl i Sioe M么n ddenu hyd at 60,000 o ymwelwyr dros y deuddydd nesaf.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sioe yn cael ei chynnal ddydd Mawrth a dydd Mercher

Un sy'n cofio'r holl newidiadau ydy llywydd y sioe eleni, Geraint Roberts o Gefn Arthen, Brynsiencyn.

Bu'n stiwardio yn adran y moch am ddegawdau cyn dod yn brif stiward yn 1992, a bydd y teulu yn parhau i gefnogi'r cystadlu yn eleni hefyd.

Dywedodd Mr Roberts: "'Dan ni fel teulu wedi bod yn cystadlu ers chwarter canrif yn adran y moch, a bydd gweddill y teulu yn dal i wneud eleni."