Cyhoeddi grantiau pellach ar gyfer taclo llygredd fferm

Disgrifiad o'r llun, Mae Lesley Griffiths AC yn awyddus i glywed barn ffermwyr, undebau a phartneriaid am gynlluniau'r llywodraeth wedi Brexit yn Sioe Sir Benfro

Mae manylion am 拢6m o grantiau ar gyfer rheoli a storio maethynnau fferm yn cael eu cyhoeddi yn Sioe Sir Benfro ddydd Mawrth.

Bydd y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG) yn cael ei ddefnyddio i annog ffermwyr i fynd i'r afael 芒 llygredd amaethyddol er mwyn gwella ansawdd d诺r, pridd ac aer.

Yn ogystal, mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn awyddus i glywed barn ffermwyr, undebau a phartneriaid am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cymorth i'r sector amaeth wedi Brexit.

Yn 么l Ms Griffiths, nid yw "cynnal y status quo yn opsiwn" i ffermwyr Cymru.

Mae pedwerydd cyfnod ymgeisio'r grant SPG ar agor rhwng 3 Medi a 26 Hydref, gyda grantiau'n amrywio o 拢12,000 i 拢50,000 er mwyn cyfrannu at hyd at 40% o gost prosiectau.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Bydd y grantiau'n cyfrannu at gostau prosiectau sy'n arbed llygredd amaethyddol, gyda'r bwriad o wella ansawdd d诺r, pridd ac aer

Mae adeiladu storfeydd slyri dan orchudd a gwella cyfarpar rheoli yn rhai o'r prosiectau sy'n gymwys i'w hariannu.

Cyn ymweld 芒'r sioe, dywedodd Ms Griffiths fod "achosion o lygredd ar y fferm sy'n effeithio ar ansawdd d诺r a bywyd gwyllt wedi cynyddu'n ddiweddar, yn aml yn sgil camreoli storfeydd slyri a chyfleusterau trin d诺r budr."

Yn ogystal 芒 chyhoeddi manylion cam nesaf Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, mae Ms Griffiths hefyd yn awyddus i siarad 芒 ffermwyr, undebau a phartneriaid am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru ar 么l Brexit.

Heriau a chyfleoedd newydd

Ddechrau Gorffennaf cafodd ymgynghoriad ar Brexit a'n Tir ei lansio, yn cynnig rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru yn dilyn Brexit.

Bydd y rhaglen newydd hefyd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg - y Cynllun Cadernid Economaidd a'r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Dywedodd Ms Griffiths: "Mae Brexit yn creu heriau a chyfleoedd sylweddol, a dwi wedi dweud droeon nad yw cynnal y status quo yn opsiwn i ni a bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dod i ben yng Nghymru."

Wrth gydnabod mai'r Sioe Sir Benfro hon fydd yr olaf cyn i'r DU adael yr EU, dywedodd Ms Griffiths: "Mae fy neges yn un syml - ni fu erioed adeg bwysicach i gymryd rhan a'n helpu i lunio dyfodol ffermio yng Nghymru."