Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lluniau: Sioe Amaethyddol Sir Benfro 2018
Mae'n wythnos y sioeau amaethyddol! Y tro yma, rydym ni'n dod 芒'r uchafbwyntiau o Sioe Amaethyddol Sir Benfro yn Hwlffordd, sy'n digwydd rhwng 14-16 Awst.
Lleucu Meinir oedd yno ar ein rhan:
Bill Masey - y dyn oedd yn beirniadu'r ceffylau i gyd trwy'r dydd yn y 'Grand Arena'...
...ac roedd y safon yn uchel, fel y gwehyrwch chi!
Stondinwyr yn gwneud hud a lledrith a rhannu rhoddion i ddal sylw y miloedd oedd yn pasio.
Teulu bach bodlon: Er gwaetha'r glaw yn y bore roedd pawb yn mwynhau.
Dau gi yn cyfarch: Chwe mis oed yw'r ci sy'n ceisio dod trwy'r ffens ac mae'n ceisio gwneud ffrind gyda phob ci arall.
Roedd pedwar gafr fach ar y ffordd fewn i'r syrcas yn cael llawer o faldod.
Cyfle i ymarfer mewn sgiliau syrcas a chreu perfformiad pypedau.
Ger yr ardal syrcas a chwarae plant mae modd gweld gwenyn yn creu m锚l. Chi'n gallu gweld y frenhines gyda smotyn wen arni?
Mae David Thomas, perchennog rhain, wedi cadw gwenyn ers dros 30 mlynedd. Fe greodd yr observatory yma.
Cyfle i roi traed i fyny mewn steil ar un o stondinau'r sioe.
Mae'r ferch fach yma'n geg agored wrth edrych ar y cywion bach yn mynd o gwmpas eu pethau'n chwilota am fwyd.
Paned dda o flaen y da.
Eliza yn mwynhau peintio'i hwyneb, chwarae gyda'i bal诺n a gwylio'r gwartheg.
Isaac yn helpu i gadw'r gwartheg yn daclus yn y sied.
Iechyd da! Ffermwyr ifanc yn cymdeithasu wrth wylio'r gwartheg.
Ymlaciwch a gadewch i Phillips ddelio 芒'r cyfan.
Mae beirniadu geifr yn gofyn am lawer o waith canolbwyntio.
Camelod yn ymlacio gyda'r gofalwr yn dilyn y rasys camelod.
Merched yn chwerthin wrth wasgu corn y tractor.
Hefyd o ddiddordeb: