Miloedd yn heidio i 诺yl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog

Ffynhonnell y llun, Jenna Foxton

Disgrifiad o'r llun, Bydd The War on Drugs, Fleet Foxes a Public Service Broadcasting yn perfformio yn ystod yr 诺yl dros y penwythnos

Mae disgwyl i oddeutu 25,000 o bobl fynychu g诺yl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog sy'n dechrau ddydd Iau.

Mae'r 诺yl bedwar diwrnod o hyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 16 oed, ac ar y prif lwyfan eleni mae The War on Drugs, Fleet Foxes a Public Service Broadcasting.

Mae'r 诺yl annibynnol yn ddibynnol ar ei hincwm ei hun yn hytrach nag ar arian noddwyr, ac mae yna ddiddordeb wedi bod gan gwmn茂au mawr i brynu g诺yl y Dyn Gwyrdd.

Yn 么l prif gyfarwyddwr yr 诺yl, Fiona Stewart, mae'r 诺yl yn "ddeniadol iawn" i brynwyr o'r fath.

Dywedodd Ms Stewart wrth 大象传媒 Radio Wales: "Does yna erioed amser mor heriol wedi bod i'r diwydiant gwyliau."

Ffynhonnell y llun, Samantha Milligan

Disgrifiad o'r llun, Mae pob un tocyn wedi ei werthu, ac mae disgwyl i 25,000 o bobl i fynychu g诺yl y Dyn Gwyrdd

Esboniodd Ms Stewart: "Y Dyn Gwyrdd yw un o'r unig wyliau annibynnol sydd ar 么l, ac rydym yn gwerthu allan yn gyflym, felly mae'n opsiwn deniadol iawn i gwmn茂au mawr, rhyngwladol o America."

Serch hynny, pwysleisiodd ymrwymiad y t卯m i gadw'r 诺yl ger Crucywel ym Mhowys yn un annibynnol ac ychwanegodd eu bod yn awyddus i gynnig profiad o rywbeth heb "ei werthu" i'r cyhoedd.

'Profiad unigryw'

Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal ar yst芒d hanesyddol Glanwysg, yn cynnwys ardal sy'n gwerthu cwrw a seidr wedi ei fragu gan fusnesau annibynnol, ardal i blant a Gardd Einstein, sef dathliad o wyddoniaeth, celf a natur.

"Be dwi'n ei garu am y Dyn Gwyrdd yw bod modd i bobl ddewis eu profiad unigryw o'r 诺yl," meddai Ms Stewart.

"Maen nhw'n gallu dawnsio drwy'r nos, gwylio comedi neu ffilmiau'n hwyr, neu eistedd mewn twba twym yn yfed bubbly, yfed cwrw Cymreig neu ddarganfod band newydd cyn mynd i weld band rhyngwladol ar un o'r prif lwyfannau."

Ffynhonnell y llun, Max Miechowski

Disgrifiad o'r llun, Mae'r 诺yl annibynnol yn 16 oed eleni

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl mwy o draffig na'r arfer ar yr A40 rhwng Y Fenni ac Aberhonddu ac ar yr A465, sef Ffordd Blaenau'r Cymoedd, gerllaw.

Bydd hefyd fysiau gwennol arbennig yn teithio o orsaf drenau Y Fenni.

Yn ogystal, mae bysiau arbennig o fynychwyr yn teithio yno o 30 o leoliadau ledled y DU.