Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ailenwi'r Felodr么m Cenedlaethol ar 么l Geraint Thomas
Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd Felodr么m Cenedlaethol Cymru yn cael ei ailenwi ar 么l enillydd y Tour de France, Geraint Thomas.
Dywedodd y cyngor bod y seiclwr wedi derbyn eu cynnig i ailenwi'r ganolfan yn Felodr么m Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.
Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Thomas sicrhau ei le yn y llyfrau hanes fel y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn hanes 105 mlynedd y ras.
Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Thomas: "Mae'n anrhydedd enfawr cael y felodr么m wedi'i ailenwi ar fy 么l - dydw i ddim yn gallu credu'r peth a bod yn onest!
"Mae'r felodr么m wedi chwarae rhan allweddol yn fy stori seiclo i ac mae'n parhau i chwarae rhan allweddol yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o seiclwyr yn ne Cymru.
"Rydw i eisiau diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr ailenwi ac rwy'n edrych ymlaen i weld pawb ar gyfer yr ailagoriad swyddogol."
Roedd miloedd o bobl ar strydoedd Caerdydd yr wythnos ddiwethaf i groesawu Thomas yn 么l i Gymru wedi ei fuddugoliaeth hanesyddol.
Wedi iddo ennill y Tour de France roedd rhai swyddogion yn Sir G芒r hefyd wedi dweud y dylai felodr么m newydd Caerfyrddin gael ei ailenwi ar 么l y g诺r o Gaerdydd.
Bydd Thomas yn ymweld 芒 Chasnewydd fis nesaf wrth i gymal gyntaf y Tour of Britain orffen yn y ddinas.
Mae Thomas wedi hyfforddi yn y felodr么m yn y gorffennol, gan gynnwys cyn Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 ble enillodd ei ail fedal aur Olympaidd, a chyn iddo ennill aur dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014.
Dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox eu bod eisiau "dangos ein gwerthfawrogiad o gyflawniad aruthrol Geraint".
"Mae Geraint wedi bod yn ymwelydd cyson i Felodr么m Cenedlaethol Cymru ers iddo agor yn 2003 ac mae wedi siarad am yr hyn mae'n ei olygu iddo, felly mae'n addas iawn bod Casnewydd yn cyflwyno'r anrhydedd yma iddo," meddai.