7 peth ddysgon ni o gyfweliad Rhys Ifans

Ar Ddydd Llun G诺yl y Banc, 27 Awst, bydd rhaglen arbennig ar Radio Cymru yn mynd 芒 ni tu 么l i lwyfan y National Theatre - a thu fewn i feddwl yr actor byd-enwog Rhys Ifans.

Bu'n siarad yn agored iawn gyda Garry Owen am ei fywyd a'i yrfa hyd yma. Dyma saith peth ddysgon ni o'r rhaglen Yng Nghwmni Rhys Ifans...

1. Mae Rhys Ifans yn gwneud 'yoga' a 'pilates'

Ydy wir.

"Dwi'n g'neud petha ddyla dyn fy oed i ddim ei wneud heb ofal nyrs," meddai'r g诺r 51 oed, sy'n 6'2" o daldra, pan yn siarad am yr her gorfforol o berfformio'i ddrama lwyfan ddiweddara'.

"Bob dydd cyn ymarfer 'da ni'n 'neud ymarfer corff efo pilates neu yoga i gael hyblygrwydd yn y corff ac hefyd i adeiladu cryfder i helpu ti efo gofynion arbennig y sioe."

Un o'r pethau mae'n rhaid iddo'i wneud yn Exit The King ydy dringo i fyny a lawr ystol sawl gwaith yn y tywyllwch, "sy'n cymryd lot o bractis".

2. Mae'n dal wedi'i wahardd o fwytai yn Llundain

Un o gwestiynau dwysaf Garry Owen: Ydy Rhys Ifans yn cael y bwrdd gorau mewn t欧 bwyta crand?

"Mae'n rhaid i fi fod yn ofalus pa rai dwi'n ddewis," meddai.

"Mae 'na lefydd sy'n d'eud: 'I'm sorry, you're still banned - can we have our cutlery back?' 'No, no, you've ruined our aquarium' oedd un."

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Rhys Ifans BAFTA am yr actor gorau yn 2005 am ei ran fel Peter Cook yn 'Not Only But Always'

3. Dylai actorion ifanc fynd i golegau actio, er eu bod yn "elitaidd"

"Mae'r training gesh i yn enwedig efo fy nghorff i a fy llais i dros 30 mlynedd yn 么l dal yn fuddiol heddiw. Hefyd petha' basic iawn fel troi fyny ar amser... dysgu dy blydi leins."

Ond cyfaddefodd ei bod hi'n "dorcalonnus" bod y colegau wedi troi'n sefydliadau i'r elite.

"Mae'n rhaid i ti gael pres i fynd i goleg drama y dyddiau yma yn anffodus - mae'r theatr ei hun yn mynd i ddioddef yn y pen draw. Dwi ddim yn gw'bod be' ydy'r ateb."

4. 'Twin Town' i ddychwelyd fel sioe gerdd?

Un o berfformiadau mwya' cofiadwy Rhys Ifans ar sgrin oedd ei ran fel Jeremy Lewis yn y ffilm Twin Town.

Daeth cyhoeddiad y llynedd, 20 mlynedd ers ei rhyddhau, bod gwaith wedi cychwyn ar ddilyniant i'r ffilm. Felly a fydd sequel yn gweld golau dydd?

"Dwi'm yn si诺r, gawn ni weld. Mae 'na sgript," meddai.

"Mae ariannu ffilmia'n broses anodd, anodd, anodd iawn yn y byd sydd ohoni. Ma' holl dirwedd ffilmia' wedi newid.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Rhys yn ymddangos ochr yn ochr 芒'i frawd, Ll欧r Ifans (dde), yn 'Twin Town'

"Gobeithio fydd 'na ryw fath o ail fywyd i Twin Town mewn rhyw ffurf, pwy a 诺yr... 'falle fydd 'na musical llwyfan? Dwi'n meddwl fysa hynna'n syniad gwych.

"Fedra'i bigo unrhyw olygfa o Twin Town a meddwl am y g芒n mwya' ffiaidd o fudr i fynd efo unrhyw olygfa. Dwi'n eitha' licio'r syniad o Twin Town: The Musical!"

5. Mae'n dal yn well ganddo "daflu bricsan na seinio petisiwn"

Dywedodd mai un o'r rhannau mwyaf heriol iddo'i berfformio oedd drama un dyn - Protest Song - yn olrhain hanes dyn di-gartref o Lerpwl sy'n cysgu ar y stryd tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Aeth 芒'r ddrama i'r stryd hefyd, meddai, ac o flaen swyddfa Boris Johnson - "so mae'n genes anarchaidd i... mae'i dal yn all system go efo rheina," meddai.

"Ella mod i wedi tawelu lawr efo'r holl ddyn gwyllt yma ond mae'n dal well gen i daflu bricsan na seinio petisiwn."

Ers perfformio'r ddrama, mae Rhys bellach yn llysgennad i elusen Shelter Cymru ac yn angerddol iawn am ei waith yn helpu'r di-gartref.

6. Mae'n awyddus i weithio yng Nghymru eto

"Fyswn i wrth fy modd yn g'neud r'wbeth yn Gymraeg neu yng Nghymru... dwi'n hollol agored i 'neud. Mae'n mynd i ddigwydd."

Wedi dweud hynny, mae'n cyfaddef hefyd ei fod o "ddim mor wybodus o'r ddrama Gymraeg" achos ei fod wedi derbyn ei "addysg theatrig" yn Lloegr.

Disgrifiad o'r llun, Rhys Ifans yn ymddangos yn y ddrama deledu Rhag Pob Brad yn 1994, drws nesa' i Alun Elidyr

Ond ei fwriad yn y pen draw, meddai, ydy cyflwyno'r iaith Gymraeg i gynulleidfa ryngwladol.

Mae'n cyfeirio at un o'i hoff ddramodwyr, Brian Friel, sydd wedi llwyddo, meddai, i fynd 芒'r Wyddeleg allan i'r byd.

"Be' sy'n fy niddori fi ydy sut allwn ni ddod 芒'r iaith Gymraeg i lwyfan byd-eang."

7. Gwaith ydy "popeth" i Rhys Ifans erbyn hyn

Wrth drafod Exit The King, mae'r actor yn trafod agweddau o'r ddrama sydd wedi gwneud iddo feddwl am ei fywyd ei hun.

"Dwi wedi byw bywyd i'r hilt. Dwi ddim yn difaru un ennyd fach - dwi'n ddiolchgar iawn o'r cyfleoedd dwi 'di ga'l a'r bywyd dwi 'di ga'l a'r hwyl dwi 'di gael, achos dydi 'ngwaith i erioed wedi diodde'.

"Mae fy mywyd i hyd yn hyn... mae 'na sawl act wedi bod - a mae'r act dwi ynddi hi r诺an yn un o'r rhai mwyaf hyfryd.

Disgrifiad o'r llun, Mae 'Exit The King' yn ymdrin 芒 sut mae'r Brenin Berenger yn dygymod 芒 marwolaeth

"Bellach ma' marwolaeth yn rhywbeth ti'n gweld fwy o'n cwmpas ni - a salwch - wrth i ti fynd yn h欧n, ac wrth gwrs, ti'n dechra' meddwl amdano fo dy hun.

"Dwi wedi byw mwy na thebyg r诺an yn hirach na fydda i fyw eto. Mae bob ennyd yn fwy gwerthfawr yn sgil y ffaith ella mod i ddim am fod yma cyn hired ag o'n i'n ddisgwyl.

"R诺an fy mhopeth i ydy fy ngwaith i, a dwi'n hapus iawn efo hynna."