Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Senedd Ieuenctid Cymru: 'Mae'n bwysig bod ni'n cael llais'
Yr wythnos nesaf bydd pobl ifanc ar draws Cymru'n gallu gwneud cais i sefyll fel ymgeisydd yn etholiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru.
Y dasg a fydd yn wynebu'r 60 fydd yn cael eu hethol fydd cynrychioli plant a phobl ifanc, a cheisio dylanwadu ar Aelodau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru, Cemlyn Davies sydd wedi bod yn clywed mwy am y cynllun.
Dros baned mewn caffi yn Rhydaman, mae 'na gyfle prin i gael sgwrs gyda Meg Escott.
A hithau'n 17 oed mae Meg ar fin cychwyn ar gam nesa' ei chwrs yn y coleg, ble mae hi'n astudio gofal plant.
Does dim yn anghyffredin am hynny, ond pan nad yw hi wrth ei gwaith mae Meg yn gofalu am ei mam-gu sydd 芒 dementia, ei mam sy'n ei chael hi'n anodd symud ac sydd ag epilepsi, a'i brawd bach sydd hefyd ag epilepsi.
"Mae dyddie ble ti'n dihuno a ti'n non-stop am 10 awr yn 'neud popeth ac mae dyddie wedyn ble ti'n gallu cael chill am 10 munud," meddai Meg.
"Mae e'n gallu bod yn rili anodd achos mae mam mewn a mas o'r ysbyty drwy'r amser. Mae e'n gallu bod yn anodd iawn."
Ond er gwaetha'r pwysau sydd arni, mae Meg 芒'i bryd ar gael ei hethol i Senedd Ieuenctid Cymru.
Bydd yr etholiad cynta'n digwydd dros gyfnod o dair wythnos fis Tachwedd - gyda dau draean o'r 60 aelod yn cael eu hethol gan bobl ifanc ar draws Cymru i gynrychioli'u hetholaeth nhw.
Bydd yr 20 aelod arall yn cael eu henwebu a'u hethol gan sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - corff sy'n cynnig cefnogaeth i ofalwyr ifanc fel Meg.
"Gyda gofalwyr ifanc fel fi mae e'n bwysig bod ni'n cael llais achos maen nhw ddim yn cael llais rili, dydy pobl ddim yn ein deall ni a bydd bod ar y Senedd Ieuenctid yn rhoi llais rili da i fi gynrychioli pobl ifanc a gofalwyr fel fi," meddai Meg.
Addysg wleidyddol
Pwrpas y Senedd Ieuenctid yw rhoi cyfle i bobl ifanc drafod syniadau a chynnig adborth i Aelodau'r Cynulliad. Ond a fyddan nhw'n gwrando?
Mae Llywydd y Cynulliad Elin Jones yn "hyderus" y bydd yr oedolion etholedig yn talu sylw.
"Bydd gyda ni fforwm democrataidd nawr i roi'r llais yna'n uniongyrchol i'n pwyllgorau a'n Cynulliad ni fel bod y blaenoriaethau gwahanol sydd gan bobl ifanc yn cael y llais yna," meddai.
Gyda bwriad hefyd i ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru i 16, mae Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland yn cefnogi'r ymdrech i rymuso pobl ifanc.
Ond mae hi'n rhybuddio bod angen gwella'r addysg wleidyddol mewn rhai ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn gallu manteisio'n llawn ar gyfleoedd i godi llais.
"Dydy rhai ysgolion a phobl ifanc ddim yn gwerthfawrogi pethau sydd ddim yn cael eu harholi, a ni'n gweld pethau fel Addysg Bersonol a Chymdeithasol a'r cyfle i siarad am faterion cyhoeddus ddim yn cael sylw," meddai.
"Gyda'r cwricwlwm newydd bydd cyfle i greu lleoedd am ddadl a bydd yn rhaid i ni sicrhau bod pobl ifanc yn deall bod y pethau sy'n bwysig iddyn nhw fel iechyd meddwl, grantiau i fynd i'r brifysgol a swyddi, yn wleidyddol.
"Mae'n si诺r y byddan nhw eisiau cymryd rhan a phleidleisio pan maen nhw'n deall hyn."
'Ddim yn dwp'
Ces i air gyda Sally Holland ar 么l iddi gyfrannu i sgwrs banel ar faes yr Eisteddfod.
Roedd Gruffydd McVeigh - myfyriwr o Gaerdydd - yn gyfrannwr arall ac mae e'n falch o weld ei genhedlaeth e'n cael cyfle i ddweud eu dweud.
"Dyw pobl ifanc ddim yn dwp," meddai.
"Mae gyda ni wybodaeth am wleidyddiaeth - yn aml lot mwy o wybodaeth na phobl h欧n.
"Dyw hanner y boblogaeth yng Nghymru ddim yn sylweddoli taw ni sy'n rhedeg ein gwasanaeth iechyd ein hunain - mae hwnna'n rhywbeth ro'n i'n ei wybod.
"Mae angen i bobl ifanc beidio cael eu hystyried yn ddibwys."
Gall pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad ar , a bydd modd gwneud cais i sefyll fel ymgeisydd o ddydd Llun.