Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr actores Beth Robert
Yr actores Beth Robert sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Rhian Jones yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
O'n i rhyw dair oed - nes i gwympo ar fy mhen a gorfod cael pwythe'. O'n i'n ddiawl bach am ddringo, ac mae gen i go' o eirie Mam "Der lawr o fan'na..."!
Aeth fy wncwl i 芒 ni i Ysbyty Bronglais, a dwi'n cofio meddwl pam mod i'n cael fy rhoi ar fwrdd smwddio...! Syndod faint dwi'n ei gofio - rhaid fod e wedi bod yn frawychus.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Pan o'n i'n tyfu lan, oeddet ti naill ai yn camp David Cassidy neu camp Donny Osmond, ac o'n i yn un David Cassidy. Ond rhaid i mi 'weud fod hwnna ddim wedi cario 'mlaen!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i ar Pobol y Cwm y tro cynta' - o'n i rhyw 25 - roedden ni'n ffilmio ar y dydd roedd y bennod yn cael ei darlledu, ac yn ymarfer ar y penwythnos.
Ges i wythnos i ffwrdd un tro, a ddim i mewn tan ddiwedd yr wythnos wedyn, a gan mod i wedi bod yn brysur, nes i benderfynu bwcio gwyliau i mi fy hun i Sbaen. Dyna lle o'n i, yn gorwedd ar y traeth yn ymlacio... yna sylweddoli ei bod hi'n benwythnos a mod i i fod yn y gwaith yn ymarfer!
Roedd pobl dwi'n eu 'nabod yn deall mod i wedi gwneud hyn ar ddamwain, gan mod i'n gallu bod yn chwit-chwat, ond roedd hi'n anodd perswadio pobl eraill mai nid bod yn diva o'n i!
Dwi'n cofio Gareth Lewis (Meic) yn tynnu coes yn ofnadwy wedyn! Nes i ddim hynny eto - well gen i droi lan pan does dim fy angen i nawr!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Nes i lefen y glaw am ddiwrnod cyfan ar 24 Mehefin 2016...
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta creision, ond dwi'n trio peidio!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Porthmadog. Dyna lle mae ng诺r i'n dod, ac ry'n ni'n treulio lot o amser yno fel teulu. Pan nes i gwrdd 芒 Paul, ddywedodd e mai Porthmadog oedd y lle gore yn y byd, a fydden i'n cytuno.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson nes i gwrdd 芒 ng诺r i, sef 11 Mawrth 2000, pan o'n i mas yn dawnsio.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Breuddwydiol, creadigol, gofidus.
O Archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Shadow of the Wind gan Carlos Ruiz Zaf贸n - mae'n un o'r llyfre 'na sydd wedi aros 'da fi dros y blynydde ers i fi ddarllen e.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Nes i golli nhad yn fy ugeinie cynnar, a ches i 'rioed y cyfle i eistedd lawr 芒 chal drinc 'da Dad, felly dyna bydden i'n ei hoffi.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
'Wi wedi gwneud skydive yn Cairns yn Awstralia - anhygoel!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Yfed gwin a bwyta pasta a siocled!
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Mae hoff ganeuon yn mynd a dod, ond ar hyn o bryd, dwi wedi bod yn ddwl am Havana gan Camila Cabello.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Calamari, spaghetti vongole a tharten 'fale.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Un o ferched ABBA - Agnetha neu Anni-Frid - yn ystod y 70au, i gael gwybod sut beth yw hi i belto'r caneuon 'na!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Sera Cracroft