Pryder am ddyfodol meddygfa wledig yng Ngheredigion

Ffynhonnell y llun, Google

Mae yna ansicrwydd wedi codi yngl欧n 芒 dyfodol meddygfa yn un o drefi cefn gwlad Ceredigion sydd a 6,000 o gleifion ar ei lyfrau.

Oherwydd eu bod methu a phenodi meddyg newydd mae Meddygfa Teifi yn Llandysul wedi dweud y byddant yn rhoi terfyn i'w cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda o fis Ionawr 2019.

Dywed y Bwrdd Iechyd fod y sefyllfa wedi codi oherwydd ymddeoliad un o'r meddygon a'u bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r practis i ddatrys y sefyllfa.

Mae meddygfa arall Llandysul, Meddygfa Llyn-y-fran (sydd 芒 phump o feddygon), hefyd yn gwasanaethu tua 6,000 o gleifion.

Yn wreiddiol, roedd pedwar o feddygon ym Meddygfa Teifi, ond ar 么l cyfnod y Nadolig 2018 oherwydd ymddeoliad a phenderfyniad i weithio rhan amser, dau a hanner o feddygon fydd yn gweithio yno.

'Meddygfa brysur'

Dywed y bwrdd iechyd mewn datganiad mae lles y cleifion yw eu blaenoriaeth.

"Bydd y Practis a'r Bwrdd Iechyd nawr yn ceisio gweithio gyda'r gymuned a phractisau cyfagos er mwyn dod o hyd i ddyfodol mwy hirdymor.

"Gall y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda Meddygfa Teifi fod yn sicr y bydd y gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu fel arfer am y tro".

Mae'r Bwrdd wedi ysgrifennu at bob un o gleifion Meddygfa Teifi yn egluro'r sefyllfa ac yn dweud eu bod yn cydweithio gyda meddygfa arall y dref er mwyn sicrhau gwasanaethau yn yr ardal.

Mae Oliver Jones wedi bod yn mynychu'r feddygfa am 16 o flynyddoedd oherwydd effeithiau clefyd DVT a dywedodd wrth raglen Taro'r Post 大象传媒 Radio Cymru fod y feddygfa yn un prysur a bod "pob un yn becso".

"Fi mor ddibynnol ar y feddygfa, maen nhw'n dda iawn. Pe bai hyn yn digwydd beth fydd yn digwydd i mi a bob un arall."

Dywedodd Peter Davies, aelod o Gyngor tre Llandysul, ei fod yn siomedig iawn a bod y sefyllfa yn achos pryder.

"Bydd pobl yn gofidio am hyn, does dim amheuaeth y bydd pobl yn gorfod aros yn hirach i weld eu meddyg teulu a bydd y gwasanaeth ddim fel oedd o oherwydd i ni wedi colli un meddyg teulu," meddai.

"Nid yn unig yn Llandysul, ond mae hyn yn digwydd ledled Cymru."

Disgrifiad o'r llun, Dywed yr AS lleol Ben Lake fod etholwyr yn poeni am y sefyllfa

Mae nifer o gleifion wedi cysylltu 芒'r aelod seneddol lleol Ben Lake yn mynegi eu pryder.

Dywedodd Mr Lake fod y Bwrdd wedi ei sicrhau eu bod yn cael pethau yn eu lle ar gyfer mis Ionawr.

"Rwy'n hyderu eu bod nhw (y Bwrdd Iechyd) yn gwneud be ddylai nhw a byddai'n cadw llygad i sicrhau hynny.

"Ar hyn o bryd maen nhw'n mynd i gymryd dros y feddygfa a'i redeg yn ganolog fel petai, ond fi yn hyderus y byddant yn ffeindio darpariaeth a chael meddygon i gymryd y feddygfa drosodd."