Angen "newid gwirioneddol" i ddiogelu chwaraewyr rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae angen "newid gwirioneddol" o fewn y byd rygbi er mwyn lleihau'r risg i iechyd chwaraewyr, yn 么l arbenigwr.
Yn 么l Dr Izzy Moore, sy'n astudio anafiadau ar lefel rhyngwladol a rhanbarthol, dylai lles y chwaraewyr fod yn "flaenoriaeth i'r gamp".
Dywedodd y corff llywodraethu, World Rugby, eu bod nhw'n "ymroddedig i atal anafiadau ar bob lefel o'r g锚m".
Mae'r 大象传媒 yn disgwyl ymateb gan Undeb Rygbi Cymru.
Credai Dr Moore, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, nad yw newidiadau bach yn rheolau'r g锚m i'w weld yn cael "effaith gwirioneddol".
"Fel y mae hi ar hyn o bryd, fe allwn ni weld sefyllfa lle bod llai o chwaraewyr yn datblygu drwy'r system oherwydd pryderon am anafiadau." meddai.
Dywedodd y gall newidiadau fod yn anodd i rai pobl eu derbyn, ond awgrymai y byddai symud y gamp o'r elfen gorfforol at "ddefnydd ehangach o sgil" yn apelio at gynulleidfa wahanol.
Arweiniodd ymddeoliad annisgwyl cyn gapten Cymru, Sam Warburton, at nifer yn gofyn am newidiadau i reolau'r g锚m.
Bydd yr awdurdodau yn treialu cynllun yn ail haen Cwpan y Pencampwyr eleni, lle bydd uchder tacl cyfreithlon yn lleihau.
Mae hyn yn rhan o'r ymdrech i wneud y gamp yn fwy diogel, ac er bod Dr Moore yn cydnabod fod y newid yn un "synhwyrol", mae hi'n amau os byddai'r newid yn ddigon i weld nifer yr anafiadau yn lleihau.
'Symud pethau 'mlaen'
Er hyn, dywedodd fod y gamp yn gweithredu ac yn "ceisio symud pethau 'mlaen, efallai yn well na chwaraeon eraill".
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n cydweithio'n agos gydag URC. Maen nhw wastad wedi bod yn agored, yn ogystal 芒 bod yn barod i rannu data fel bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon.
"Mae'r gamp yn gr锚t ar yr agwedd yna, ond nid oes newid wedi bod yng nghyfraddau anafiadau am flynyddoedd,
"Mae cyfraddau cyfergyd wedi codi, ond mae'r anafiadau eraill wedi aros union 'run peth" meddai.
Yn 么l World Rugby, nid yw'r treialon yn "newidiadau bach" ond yn rhan o'r ymateb i ddadansoddiad "arloesol" o anafiadau.
Gwelodd treialon ar lefel dan-20 y g锚m - lle cafodd uchder taclo cyfreithlon ei leihau - fod yna ostyngiad o 50% mewn lefelau cyfergyd, yn ogystal 芒 gostyngiad sylweddol mewn asesiadau anafiadau i'r pen.
Ychwanegodd y corff nad yw cyfraddau anafiadau na'u difrifoldeb yn cynyddu yn y g锚m, a bod tua 40% o holl anafiadau yn digwydd yn ystod sesiynau ymarfer ac felly mae modd eu rheoli".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018