Siom wrth i siop Gymraeg Pontypridd gau wedi 23 mlynedd

Disgrifiad o'r llun, Mae Maldwyn Owen yn edrych ymlaen at gyfnod newydd i'r busnes wedi i'r siop gau

Mae'n ddiwedd cyfnod ym Mhontypridd wrth i siop Gymraeg y dre agor ei drysau am y tro olaf.

Mae Siop y Bont wedi bod ym marchnad y dref ers agor yn wreiddiol yn 1995 ond mae'r perchnogion, Ann a Maldwyn Owen, wedi penderfynu ei chau.

Mae'r rhesymau, medd Maldwyn Owen, yn cynnwys "oedran - eisio ymddeol" a "siom bod dim digon o bobol yn dod i mewn i'r farchnad".

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at bennod newydd yn hanes y busnes oherwydd "mae'n gallu bod mor dawel yma - weithiau chewch chi dim ond hanner dwsin o gwsmeriaid bob dydd".

Mae'r newidiadau diweddar yn arferion siopa cwsmeriaid, meddai, yn effeithio ar bob math o fusnesau ar y Stryd Fawr.

Anodd cystadlu

"Ma' archfarchnadoedd wedi codi lan, maen nhw'n gallu mynd fan'na a parcio am ddim - dod i fewn i'r dre', mae'n rhaid talu.

"A wedyn maen nhw wedi dod 芒 pedestrianisation i fewn i ganol Pontypridd, sy'n golygu bod neb yn gallu dod i mewn canol y dydd i jest pigio fewn i'r siop a mynd.

"Hefyd pobol yn prynu ar y we a chi'm yn gallu cystadlu efo rhai o'r cwmn茂au mawr fan'na."

Un o gwsmeriaid y siop yw Wil Morus Jones - cyn bennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ym Mhontypridd.

"Dwi'n teimlo'n drist iawn bod lle fel hyn yn diflannu," meddai. "Mae 'di bod yn rhan bwysig iawn, iawn o 'mywyd i ers blynyddoedd."

"Oedd y ddarpariaeth sydd yna mor ddefnyddiol," meddai, gan gyfeirio at r么l y siop fel cyflenwr ar gyfer ysgolion Rhondda Cynon Taf. "Mi fydd hi'n chwith mawr i mi heb Siop y Bont yma ym Mhontypridd."

'Bwlch enfawr'

Dywedodd cwsmer arall, Jayne Rees: "Ma' fe'n rwla lle allwch chi alw heibio a ca'l sgwrs yn Gymraeg, a 'neud yn si诺r bod pobol ym Mhontypridd yn clywed pobol yn siarad Cymraeg.

"Ma' wastad rywun yna ry'ch chi'n nabod. 'Dwi wedi cefnogi'r siop ers dros 20 mlynedd a ma'n drist iawn meddwl bod y siop yn dod i ben penwythnos yma.

Disgrifiad o'r llun, Agorodd y siop yn Hydref 1995

"Mae fe'n mynd i ada'l bwlch enfawr yn y farchnad ac yn y dre' ei hunan, a gyda cyn lleied o'r siope bach unigryw yn nhre' Pontypridd erbyn hyn, mae'n anodd credu be' sy'n mynd i ddod i gymryd lle Siop y Bont.

Ychwanegodd; "Y gobaith nawr yw y bydd rhywun yn camu i'r adwy... Mae'n drueni bo' rhaid i ni fynd yr holl ffor' i lawr i Gaerdydd i brynu llyfra' a cryno-ddisgia' ac ati."

Dywedodd Maldwyn Owen bod y busnes yn parhau er na fydd siop mwyach, ac y bydd yn dal i gyflenwi ysgolion a llyfrgelloedd lleol yn ogystal 芒 Phrifysgol De Morgannwg, sydd 芒 champws ym Mhontypridd ac unrhyw rieni sydd "eisio llyfre arbennig".