Cymru 0-3 Lloegr

Disgrifiad o'r fideo, Uchafbwyntiau: Merched Cymru 0-3 Merched Lloegr

Bydd yn rhaid i d卯m merched Gymru ddibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar 么l colli 3-0 i Loegr yng Nghasnewydd.

Daeth goliau Lloegr i gyd yn yr ail hanner.

Cyn hynny roedd t卯m Cymru, y mwyafrif yn chwaraewyr amatur, wedi chwarae 687 o funudau yn yr ymgyrch heb ildio g么l.

Golygai'r canlyniad fod Lloegr yn sicr o'u lle yn y rownd derfynol.

Toni Duggan, Jill Scott a Nikita Parris sgoriodd i Loegr.

Daeth Helen Ward yn agos i Gymru ond fe wnaeth Parris benio trydedd g么l yr ymwelwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth.