Angen mwy o 'newyddiaduraeth broffesiynol' yn y Gymraeg

Mae sefydlydd cylchgrawn Golwg wedi dweud bod angen mwy o gystadleuaeth ar lefel broffesiynol er lles newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg.

Roedd Dylan Iorwerth, sydd bellach yn olygydd gyfarwyddwr ar gwmni Golwg, yn siarad ar ben-blwydd y cylchgrawn yn 30 oed.

"Mae o'n 'chydig o siom i fi nad oes 'na neb arall wedi g'neud dim byd newydd sbon - ar lefel broffesiynol be' bynnag - ers tro byd," meddai Mr Iorwerth wrth Cymru Fyw.

"Fyswn i wedi licio gweld lot mwy o bobl ifanc yn rhoi cynnig ar rwbath newydd.

"Mae 'na lai a llai o gyfryngau newyddiadurol, yn enwedig rhai proffesiynol, drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae pethau fel yr Herald Cymraeg wedi mynd, a'r Cymro wedi troi i fod yn rhyw fath o gylchgrawn misol.

"Hyd y gwela' i ni ydy'r unig gorff proffesiynol cenedlaethol Gymraeg - oni bai am y 大象传媒 - sy'n weithredol."

'Gwerth mewn print'

Ar gefn llwyddiant cynnar Golwg, cafodd cylchgronau eraill eu sefydlu yn y 90au dan ymbar茅l cwmni Golwg - Wcw a'i Ffrindiau i blant, a Lingo Newydd i ddysgwyr.

Cafodd gwefan newyddion golwg360 ei lansio hefyd yn 2009.

Ond mae Mr Iorwerth yn hyderus bod lle yn y farchnad i gylchgrawn print fel Golwg - sydd 芒 gwerthiant o rhwng 2,500 a 2,800 o gop茂au.

Disgrifiad o'r llun, Dylan Iorwerth oedd golygydd Golwg pan gafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi yn 1988

"'Dan ni'n gweld gwerth mewn cylchgrawn print," meddai.

"Yn sicr fyswn i'n gobeithio bysa ni'n gallu [dathlu 40 mlynedd]. Mae edrych tu hwnt i hynny yn anodd iawn, iawn.

"Ond dwi'n credu y bydd 'na wastad bobl fydd isio'r math o stwff ti'n gallu ei gael mewn cylchgrawn print ac isio ei ddarllan o yn y ffurf yna.

"Fyswn i'n licio meddwl y bydd golwg360 yn datblygu lot yn y dyfodol ond fydd hynny ddim ar draul y cylchgrawn."

Mae Golwg yn cynnal darlith goffa flynyddol Islwyn Ffowc Elis, yng nghwmni'r prifardd Myrddin ap Dafydd, yn Neuadd Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan am 19:00 nos Iau, 6 Medi.