大象传媒

Dim cefnogaeth i Leanne Wood ymysg ASau Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Dyw arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ddim wedi sicrhau cefnogaeth yr un o Aelodau Seneddol y blaid yn y ras am yr arweinyddiaeth, gyda'r rhan fwyaf yn cefnogi Adam Price i arwain y blaid.

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Liz Saville Roberts a Hywel Williams eu bod yn ymuno 芒 Jonathan Edwards, sydd hefyd yn cefnogi Mr Price.

Gan fod Ben Lake yn cefnogi Rhun ap Iorwerth, mae'n golygu fod pedwar AS Plaid Cymru yn cefnogi newid yr arweinydd.

Yn 么l Leanne Wood, fe ddylai'r blaid uno y tu 么l i bwy bynnag fydd yr aelodau yn ei ddewis.

Mae Ms Wood yn ymladd i gael ei hail-ethol yn dilyn her gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth.

Mewn datganiad ar y cyd i gyhoeddi eu cefnogaeth i Mr Price, dywedodd Ms Saville Roberts a Mr Williams: "Rydym yn falch fod gan ein Plaid bobl o'r fath safon 芒'r tri ymgeisydd. Mae gan y ddau arall gyfraniad mawr pellach i'w wneud.

"Mewn cyfnod mor gynhyrfus a pheryglus i'n cenedl, credwn mai gan Adam y mae'r weledigaeth a'r gallu i'n harwain."

Liz Saville Roberts yw arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac AS Dwyfor Meirionnydd, tra bod Hywel Williams yn cynrychioli Arfon.

Mae dau Aelod Cynulliad wedi cyhoeddi pwy maen nhw'n eu cefnogi, gyda Dai Lloyd yn cefnogi Ms Wood a Ll欧r Gruffydd yn cefnogi Mr Price.

Elfyn Llwyd

Yn y cyfamser. mae'r cyn-AS a chyn-arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi datgan ei gefnogaeth i Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd Mr Llwyd: "Er bod y tri ymgeisydd yn deilwng, rwy'n credu mai Rhun yw'r ymgeisydd credadwy fel Prif Weinidog a'r person iawn i sicrhau fod Plaid Cymru yn symud ymlaen a llwyddo yn yr etholiad nesaf.

"Does dim dwywaith fod ap锚l Rhun yr un mor gryf yng nghymoedd y de ag ydyw yn y gogledd a'r canolbarth. Mae o hefyd yn deall yr heriau mawr sy'n wynebu ein cymunedau gwledig dros y blynyddoedd i ddod, ond hefyd y rhai sy'n wynebu ein hardaloedd trefol a dinesig.

"Mae angen arweinydd newydd ar Blaid Cymru, ac mae Cymru angen Rhun."

'Uno tu 么l' i'r enillydd

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Ms Wood ei bod hi wedi ennill cefnogaeth dros 50 o gynghorwyr sir, ynghyd 芒 chefnogaeth Arfon Jones, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Dywedodd Leanne Wood: "Aelodau'r blaid sy'n penderfynu pwy sy'n arwain, ac fe ddylai'r aelodau etholedig gefnogi'r arweinydd sydd wedi cael ei benodi'n ddemocrataidd.

"Dwi'n disgwyl i'r blaid uno y tu 么l i ddewis yr aelodau."

Daw hyn cyn y cyntaf mewn cyfres o wyth o gyfarfodydd hustyngau ar gyfer aelodau'r blaid - lle fydd y tri ymgeisydd yn ateb cwestiynau'r aelodau - ym Mhontypridd nos Fawrth.

Barn am Brexit

Yn 么l Adam Price dylid cymryd unrhyw gyfle posib i osgoi Brexit.

Roedd Mr Price yn rhan o drafodaeth ar raglen 'Sharp End' ITV Wales gyda Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth pan ddywedodd y byddai Brexit caled yn "drychineb" i economi Cymru.

"Mae'n rhaid i Blaid Cymru flaenoriaethu Cymru. Ni fydd y cyhoedd yn maddau i ni oni bai ein bod ni'n gwbl glir am sgil effeithiau Brexit ar economi'r wlad.

"Dwi'n credu y dylwn ni fod yn gwbl glir a dweud petai yna gyfle i ni rwystro Brexit rhag digwydd, yna dylwn ni gymryd y cyfle hwnnw.

Er bod Ms Wood yn cefnogi pleidlais derfynol gyhoeddus ar Brexit, credai gall ymdrech i rwystro'r broses fod yn "beryglus".

"Dwi yn erbyn Brexit, ond dwi'n cydnabod fod pleidlais wedi digwydd a dwi'n ddemocrat felly ddim yn chwilio i wrthdroi'r canlyniad." meddai.

Disgrifiodd Mr ap Iorwerth ei hun fel cefnogwr brwd o Ewrop, a chredai y dylai'r bleidlais fod wedi bod mewn dwy ran - un ar yr egwyddor, ac un arall ar beth yn union mae Brexit yn ei olygu.

Bydd canlyniad y ras i arwain Plaid Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 28 Medi.