大象传媒

Ateb y Galw: Yr actor Ll欧r Evans

  • Cyhoeddwyd
Ll欧r Ifans

Yr actor Ll欧r Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Jonathan Nefydd yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gorfod mynd i'r gwely wedi i'r clociau droi yn y gwanwyn. Roedd hi dal yn olau a finnau'n dal i glywed plant yn chware tu allan, ac yn flin oherwydd anhegwch y sefyllfa.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ian Rush. Ges i ngeni yn yr un gwely 芒 fo yn 'sbyty Llanelwy (ddim yr un pryd yn amlwg). Roedd ei luniau fo ym mhob man dros waliau'n stafell wely - ro'dd y tash 'na yn 'neud wbeth i fi!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tybed ydy Ian Rush yn gwybod ei fod wedi cael ei eni yn ur un gwely 芒 Ll欧r Evans?!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Trip ysgol Sul i Southport yn y 70au a fy mrawd yn mynnu fy mod yn mynd efo fo ar reid yn y ffair. Ma' raid bod y reid 'chydig yn fentrus i hogyn bach achos ar 么l dod i ffwrdd mi chwydais dros fy hun ym mhob man.

Roedd rhaid fi stripio lawr i 'mond fy nhr么ns, a fy mam a mrawd yn trio fy argyhoeddi bo' nhw'n edrych fel tryncs nofio c诺l.

Doeddan nhw ddim.

Bu rhaid i mi dreulio gweddill y diwrnod yn cerdded rownd Southport mewn y-fronts coch a glas, seis 5-6, tra'n drewi o chwd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Paddington 2, Llandudno. Y mab yn ddewr, ei fam o'n rhacs, ac ambell i ddeigryn yn cronni yn fy llygaid.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Torri gwinedd fy nhraed efo'n mysedd yn y gwely. Gyrru'r wraig yn mental.

O Archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Felinheli, Dyffryn Clwyd, a'r olygfa o Wern, dros fae Nefyn draw am Borthdinllaen: ysbrydoledig.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

15/05/10.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Six Foot Two.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Amhosib dewis. Dwi'n darllen lot o lyfrau ditectif - dylanwad fy nhad - a ffilmiau plant sy'n mynd 芒 hi ar y funud. Ratatouille yn ffefryn gen i.

Ffynhonnell y llun, Ratatouille
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ll欧r yn mwynhau'r cart诺n am lygoden sydd wrth ei fodd yn coginio

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Jurgen Norbert Klopp: dyn difyr, doniol a dawnus.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n casglu fests cneifio - croeso i unrhyw un gyfrannu.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Coelcerth ar draeth, ben mynydd, neu mewn coedwig. Teulu, ffrindiau, soundsystem, lluniaeth ysgafn a raffl!

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Unwaith eto, amhosib dewis. Dibynnu pa hwylie sydd arna i. Dwi newydd ddod n么l o redeg a'r g芒n dwytha cyn colapsio oedd Yes! gan Colourmusic.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ll欧r, a'i frawd Rhys, oedd s锚r y ffilm gwlt o Abertawe - 'Twin Town'

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi'm yn fwytwr mawr i fod yn onest. Sard卯ns ffres wedi'u grilio efo salad a photel o win gwyn sych i gychwyn. Yna rib-eye, chips a roasted vine tomatoes efo lager. Dim pwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Y mab, er mwyn profi be' ma'i fel i gael staff personol 24/7.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhodri Meilir