'Annibyniaeth er mwyn dianc rhag tlodi'
- Cyhoeddwyd
Annibyniaeth yw'r llwybr gorau er mwyn dianc rhag tlodi i nifer o bobl Cymru, yn 么l Adam Price.
Dywed yr AC fod angen tawelu ofnau a mynd ati i berswadio pobl y gallai hyn fod yn 'well prosiect na Brexit' o ran cyflwyno newid - newid meddai, mae pobl am ei weld oherwydd dicter tuag at y sefydliad gwleidyddol.
Mae Mr Price a Rhun ap Iorwerth yn herio Leanne Wood ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Mae Ms Wood wedi arwain y blaid ers 2012, a bydd canlyniadau'r bleidlais ar 28 Medi.
Mae'r cwestiwn o annibyniaeth yn rhywbeth fydd yn rhaid i'r tri fynd i'r afael ag o.
Dywed Ms Wood mai "ysbrydoli cymunedau" a sicrhau mwy o b诺er yn y Senedd yw'r her gyntaf.
Fe roedd y tri ymgeisydd cymryd rhan mewn dadl ar raglen Wales Sunday Supplement ar 大象传媒 Radio Wales.
Dywedodd Ms Wood fod gan y blaid y nifer mwyaf erioed o ASau (pedwar), dau o'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a'r blaid yw'r ail fwyaf o ran nifer o gynghorwyr.
Gan gyfeirio at ei llwyddiant yn cipio Rhondda yn etholiadau'r cynulliad yn 2016, ychwanegodd: "Mae hyn yn dangos beth sy'n bosib. "
"Mae'r sylfeini yn eu lle, a gallwn nawr ennill etholiadau mewn ardaloedd traddodiadol y blaid Lafur."
Ond dywedodd Mr Price er gwaetha'r "oases bach o lwyddiant' yn Rhondda ynghyd 芒 llwyddiant yn ei etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - roedd angen i'r blaid ymestyn ei hap锚l.
Dywedodd y cyn newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth, AC Ynys M么n, ei fod am "adeiladu'r cynghrair ehangach posib."
"Ddim dim ond pobl ar y chwith ac yn y canol, ond ffermwyr a'r rhai sy'n credu yng Nghymru a'r dyfodol ac sydd am gyfrannu," meddai.
Pe bai'r blaid yn llwyddo i reoli'r Senedd - fe enillodd 12 o'r 60 sedd yn 2016, dywed Ms Wood y gallai wedyn ffocysu ar ei "darged craidd" o annibyniaeth.
"Mae'n rhaid derbyn y ffaith bod nifer o bobl yn bryderus ac ofn y syniad," meddai Ms Wood.
"Mae'n rhaid dadlau'r' achos mewn modd gonest, y ffactorau economaidd."
Dywedodd y byddai hyn yn cymryd dau gyfnod o lywodraeth Plaid Cymru - gan gyfeirio at y "650 o dudalennau oedd yn ateb pob cwestiwn posib" gafodd ei gyhoeddi gan yr SNP cyn y refferendwm yn yr Alban.
Pan ofynnwyd a oedd annibyniaeth yn gynaliadwy, gan mai Cymru yw un o wledydd tlotaf Ewrop, dywedodd Mr Iorwerth: "Fe fyddai Gweriniaeth Iwerddon wedi bod ar fap y gwledydd tlotaf cyn annibyniaeth."
Ychwanegodd wrth i ddarlun mwy clir o Brexit ymddangos byddai'n "fwy am losgi pontydd a chodi muriau" ond yn gyntaf roedd rhaid i Blaid Cymru "gydnabod ofnau pobl."
"Mae o yngl欧n ag ailgynllunio Prydain i gasgliad o wledydd sy'n cydweithio gyda'i gilydd, " meddai.
Dywedodd Mr Price: "Mae'n rhaid cydnabod nad yw annibyniaeth yn gwestiwn haniaethol, ond yn gwestiwn am fywydau pobl, a'r tlodi sy'n wynebu nifer o bobl.
"Hwn yw'r llwybr sy'n rhaid i ni ei ddilyn ar gyfer mwyafrif pobl Crymu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018