大象传媒

Dwy chwaer Rownd a Rownd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores Elen Gwynne newydd ymuno 芒 chast y gyfres deledu boblogaidd, Rownd a Rownd. Mae ei chwaer fach, Lowri Gwynne wedi bod yn actio rhan y steilydd gwallt, Lowri, ers tua wyth mlynedd. Yma mae'r ddwy chwaer yn trafod eu plentyndod a mynd ar nerfau ei gilydd!

Ffynhonnell y llun, Elen Gwynne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae rhai yn meddwl ein bod ni'n twins"

"Plentyndod lyfli"

ELEN - Fi 'di'r plentyn canol. Mae gen i gof o Lowri yn cael ei geni adeg Dolig, o'n i tua 6 oed a Mam-gu yn edrych ar fy 么l i a'n brawd Dafydd.

Roedd fy mhlentyndod yn un prysur, lot o fynd a dod. Roedd Dad yn athro Cerdd a Mam yn physio. Roedd yn gartref hapus ac yn lot yn hwyl.

LOWRI - Ges i blentyndod lyfli. Ro'n ni'n byw yn Pentrefelin pan o'n i'n fach a wedyn symud i Gricieth - sy'n lyfli o le i fyw. Mae Dafydd saith mlynedd yn h欧n na fi ac Elen chwe mlynedd yn h欧n felly roedd dipyn o gap oedran rhyngddon ni.

Pan o'n i'n yr ysgol gynradd o'n nhw 'di symud i'r ysgol uwchradd a ro'n i yn yr ysgol uwchradd hebddyn nhw. Felly er mod i'n un o dri, weithiau, o'n i mewn ffordd yn teimlo fel unig blentyn.

Ond roedd llawer o hwyl i gael a dwi'n cofio chwarae ffwtbol efo 'mrawd. Ro'n i'n real tomboy, gwallt cwta a gwisgo shorts a trainers bob dydd a dod i'r t欧 yn fwd i gyd.

Pan aeth Dafydd ac Elen i'r brifysgol yng Nghaerdydd, wnes i gr茂o yr holl ffordd adra yn y car efo Mam a Dad! Roedd o'n od, pan ti 'di arfer bod yn un o dri a wedyn dim ond fi a'n rhieni.

Ffynhonnell y llun, Lowri Gwynne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elen y chwaer fawr, yn gofalu am Lowri

"Dyna'i gyd o'n i wastad eisiau 'neud"

ELEN - Sgennai ddim syniad o ble ddaeth y diddordeb mewn actio, does dim actorion eraill yn y teulu, ond dyna'i gyd o'n i wastad eisiau 'neud. Roedd yr elfen o gerddoriaeth wastad yn gry' yn y t欧. Dwi'n cofio Dad yn recordio fi'n chware'r xylophone a'm mrawd ar y cello rhyw Ddolig!

Yn yr ysgol gynradd, dwi'n cofio fod gen i obsesiwn efo'r ffilm Annie ac fe wnes i sgwennu drama am blant mewn cartref amddifad, a nath yr ysgol adael i ni roi y sioe 'ma mlaen. Rhaid bod o'n ofnadwy, ond daeth y plant i gyd o'u dosbarthiadau i'w wylio fo!

Roedd y profiadau a gafon ni yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, yn sylfaen dda o ran ein trochi yn y Celfyddydau. Oedd o'n rhan annatod o'n haddysg ni. Roedd Dad, fel y Pennaeth Cerdd, a'r athrawon eraill, yn sicrhau ein bod ni'n cael ystod mor eang o brofiadau - mae'n nyled i'n fawr iddyn nhw. Roedd yr holl ymarferion hefyd yn ffordd dda o gael osgoi ambell bwnc o'n i'n ei gas谩u!

LOWRI - Mae'n reit anarferol bod dau o blant o'r un teulu 'di dewis gyrfa actio fatha mae Elen a fi 'di 'neud, ond roedd tyfu fyny yn gweld Elen yn mynd i goleg drama a mynd ymlaen i actio efallai wedi gwneud o'n fwy o opsiwn i fi. Mae hynny'n si诺r o fod wedi dylanwadu arna' i.

Pan o'n i'n fach o'n i'n gallu bod yn eitha swil, ond yng Nghymru 'dan ni mor ffodus 'dan ni'n gallu 'neud petha' creadigol o ran sioeau ysgol a'r Steddfod ac fe wnes i gymryd ato fo. Do'n i ddim yn swil pan o'n i'n actio ac o'n i'n teimlo bod o'n rhywbeth ro'n i'n dda ynddo fo.

"Chwaer annoying iawn!"

ELEN - Pan o'n i'n fengach, oedd genna' i ddiddordeb yn fy mhetha fy hun, so dwi ddim yn si诺r a oedd Lowri a fi'n agos bryd hynny.

Roedd Lowri yn dwyn fy nillad i, a fi'n mynd yn andros o flin. Dwi'n cofio ei gweld hi'n rhedeg oddi ar y bws ysgol, o'dd hi'n trio rhedeg i'r t欧 i dynnu'r trowsus du smart ma' oedd hi 'di ddwyn i fynd i'r ysgol!

Ond roeddan ni'n tri yn gyrru mlaen ac oedd 'na lot o hwyl i gael efo Lowri pan oedd hi'n fengach!

LOWRI - Mae unrhyw honiadau mod i'n dwyn ei dillad hi yn hollol wir! Roedd gan Elen ddillad neisiach na fi, a pam gofyn am ganiat芒d i'w gwisgo nhw os o'n i'n gallu ei dwyn nhw?! Dwi'n si诺r ei bod hi'n fy ngweld i'n annoying iawn.

"Diolch i'n rhieni"

ELEN - Fe wnaeth Mam a Dad ddweud wrtha i, os wnei di dy orau ar gyfer TGAU gei di wneud beth bynnag ti isho wedyn, ac mi wnes i roi fy mhen lawr i gael TGAU y tu 么l i fi. Yna, wnes i gwrs Celfyddydau Perfformio BTEC arbennig yn Nolgellau gyda Mair Tomos Ifans, ac ymlaen i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

LOWRI - 'Dan ni'n lwcus bod ein rhieni ni wastad 'di bod mor gefnogol a phositif. Roeddan nhw'n dweud, os mai dyna ti isho'i wneud, cer amdani. Am gyfnod yn fy arddegau, ro'n i'n teithio o Borthmadog i Fangor i Ysgol Glanaethwy bob wythnos, roedd yn ymroddiad mawr, yn ariannol ac o ran amser gan bod fy rhieni'n gweithio'n llawn amser - o'n i'n lwcus iawn i gael y cyfle.

Mae'n rhieni ni yn hapus os ydan ni yn hapus. Mae Mam a Dad yr un mor falch ohona i, Elen a Dafydd. Ein bod ni'n hapus yn ein gwaith sy'n bwysig iddyn nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cymeriad Lowri yn gyfneither i Gwenno, sy'n cael ei chwarae gan ei chwaer, Elen

"Ffrindiau da"

ELEN - 'Dan ni'n dwy yn eitha' sili am beth sy'n 'neud i ni chwerthin a dan ni'n agos iawn.

Mae Lowri'n byw yn Nghaernarfon r诺an, mae'n mwynhau bod efo Twm, fy mab bach, a 'dan ni'n mynd am dro efo'r c诺n yn reit aml, lapio a cherdded yn y glaw.

Pan o'n i'n rhoi genedigaeth i Twm, o'n i 'di bod wrthi am ddyddiau, ac o'n i wedi gyrru Ll欧r [g诺r Elen, sy'n actio rhan Vince yn Rownd a Rownd] adra i tjecio ar y c诺n, a ddoth Lowri i'r sbyty am chydig oria'. Dan ni'n dal i chwerthin am fy rwdlan i ar 么l cal morffin!

LOWRI - Dwi'n meddwl bod deinamig brodyr a chwiorydd yn newid wrth fynd yn h欧n, a 'dan ni'n dwy yn rili agos erbyn hyn. Mae Elen bob amser yna i fi a dwi'n troi ati am gyngor ym mhob agwedd o mywyd, nid jyst am fy ngwaith.

Dwi'n meddwl ein bod ni'n reit wahanol, ond mae 'na rai 'di gofyn os ydan ni yn twins. Dwi ddim yn ein gweld ni mor debyg 芒 mae rhai pobl yn ei ddweud.

"Mae Rownd a Rownd yn lwcus i'w chael hi"

ELEN - O'n i 'chydig yn nerfus yn cychwyn ar Rownd a Rownd, ar 么l sbelan hir i ffwrdd o actio a chyfnod mamolaeth ar ben hynny, ond nes i ymlacio'n syth efo Lowri. Mae hi'n c诺l braf ar set - yn gyd-actor gwych, saff.

Dwi'n credu ei bod hi'n hawdd iawn i'w gwylio ar y sgrin hefyd, mae hi mor naturiol, ac yn llawn haeddiannol o'i lle fel un o gymeriadau mwya' hoffus y gyfres (dyna ddigon o godi embaras arni!)

LOWRI - Mae'n teimlo fel bod Elen wedi bod yn y gyfres ers blynyddoedd, mae mor naturiol ei chael hi yna.

Mae'n actores rili da ac mae Rownd a Rownd yn lwcus iawn i'w chael hi.

Hefyd o ddiddordeb: