大象传媒

Cyngor Ynys M么n mewn sefyllfa 'amhosib' oherwydd toriadau

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor M么n

Mae rhai o gynghorwyr Ynys M么n yn galw am fwy o gyllideb i gynnal gwasanaethau, gan rybuddio eu bod "methu parhau fel hyn".

Cafodd adroddiad ei gyflwyno i'r cyngor ddydd Llun yn dweud fod angen gwneud "penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd" wrth i'r awdurdod wynebu toriadau pellach o 拢9.34m dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r cynllun ariannol yn rhoi dyfodol ysgolion cynradd sydd 芒 llai na 120 disgybl yn y fantol, gyda chodiad 5% mewn taliadau treth hefyd yn cael ei ystyried.

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams: "Does dim amheuaeth fod cwestiynau anodd iawn yn ein hwynebu ni dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod."

'Hawdd pwyntio bys'

Fel rhan o'r cynllun tair blynedd, mae posib hefyd y bydd canolfannau hamdden ac oriel Ynys M么n yn cael eu trosglwyddo i ddwylo preifat, yn ogystal ag ailedrych ar ddarpariaeth dosbarthiadau chweched ddosbarth yn ysgolion y sir.

Roedd sawl un yn beirniadu rhaglen cynildeb Llywodraeth y DU, sydd wedi arwain at gwymp o 18% mewn grantiau i gynghorau Cymru - gyda chwymp pellach o 1% i ddod y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae toriadau Llywodraethau Cymru a'r DU yn ein taro yn flynyddol ac mae hi'n hawdd i'r cyfryngau a gwleidyddion lleol bwyntio bys.

"Mae dyletswydd statudol arnom i gynnig gwasanaethau fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas."

Er toriadau eisoes o 拢22m o'u cyllideb ers 2013/14, mae rhybudd o doriadau pellach - gyda disgwyl i benaethiaid gwasanaethau dorri 8% ychwanegol erbyn 2022.

Sefyllfa 'amhosib'

Yn 么l Marc Jones, swyddog sy'n goruchwylio gwaith yr awdurdod, efallai bydd rhaid i'r cyngor ddod 芒 rhai gwasanaethau - sydd ddim yn ofynnol yn statudol - i ben yn llwyr.

"Mae adrannau llai fel hamdden, yr adran forol, datblygiad economaidd a phriffyrdd wedi gorfod delio 芒 rhan helaeth o'r toriadau, ond rydyn ni bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae'r sg么p i barhau i dorri'r gwasanaethau hyn yn mynd yn llai bob blwyddyn." meddai.

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei bod hi'n "amhosib" darparu gwasanaethau gyda'r gyllideb sydd ar gael.

"Os hoffai pobl weld newid yna mae'n rhaid lobio Llundain a Bae Caerdydd oherwydd mae'r toriadau hyn yn ein brifo," meddai

"Mae'n sefyllfa hynod ddifrifol ac mae'n rhaid i rywbeth newid, ni allwn ni barhau fel hyn. Fe wnawn ni'n gorau ond rydyn ni'n wynebu sefyllfa ofnadwy."