Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ail-greu trychineb Aberfan ar gyfer drama The Crown
Mae un o'r digwyddiadau mwyaf trasig yn hanes Cymru ar hyn o bryd yn cael ei ail-greu ar gyfer cyfres deledu boblogaidd.
Mae The Crown ar Netflix yn dilyn hanes teyrnasiad Brenhines Elizabeth II o'r 1950au.
Bellach mae'r drydedd gyfres yn cael ei ffilmio, fydd yn cynnwys hanes trychineb Aberfan yn 1966.
Cafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas a 18 o dai.
Bydd y gyfres yn rhoi sylw i ymateb y Frenhines i'r digwyddiad. Fe ymwelodd ag Aberfan wyth niwrnod wedi'r trychineb.
Mae lle i gredu bod y cynhyrchwyr wedi siarad gyda chynrychiolwyr y gymuned leol i ofyn am help i gyflwyno'r hanes.
Olivia Colman sy'n protreadu'r Frenhines yn y drydedd gyfres, gan olynu Claire Foy.
Mae lluniau'n dangos actorion mewn gwisgoedd o'r 1960au a chriwiau cynhyrchu ar leoliad.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu yn 2019.
Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu gyda Netflix, Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Amgueddfa Lofaol Cymru am sylw.