Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diddymu tollau dros bontydd Hafren ar 17 Rhagfyr
Bydd tollau dros bontydd Hafren yn dod i ben ar 17 Rhagfyr, mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhoeddi.
Fe wnaeth Alun Cairns y cyhoeddiad wrth siarad yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham ddydd Mawrth.
Mae teithwyr wedi gorfod talu i groesi ers i'r bont gyntaf gael ei chodi yn 1966, ac mae gyrwyr ar hyn o bryd yn gorfod talu 拢5.60 wrth deithio i Gymru.
Mewn cyfweliad ar y Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru dywedodd Mr Cairns ei fod yn "gyffrous" am y datblygiad, gan fod "pobl 'di bod yn galw am hyn ers blynyddoedd".
"Mae'n anodd credu bod 50 o flynyddoedd wedi pasio ers bod pobl wedi bod yn talu i ddod mewn i Gymru, mae hynny yn gwbl anghywir a ma' hyn yn creu cyfleoedd newydd i bobl yn ne Cymru ac i fusnesau'r ddwy ochr i'r afon."
Wedi i'r pontydd ddychwelyd yn eiddo cyhoeddus ar 1 Ionawr 2018, galwodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am ddileu'r tollau.
Ond, dadleuodd yr Adran Drafnidiaeth bod y ffioedd fyddai'n cael eu casglu'n 2018 yn cyfrannu tuag at ddiddymu'r tollau dros gyfnod o amser ac at waith cynnal a chadw, sy'n costio 拢15m.
Bydd diddymu'r tollau yn rhoi hwb o 拢100m i'r economi, yn 么l amcangyfrifon gan Lywodraeth Cymru.
Mae 25 miliwn o deithiau dros y bont yn flynyddol a bydd unigolion sy'n teithio drosti'n ddyddiol yn gallu arbed 拢1,400 y flwyddyn.
Serch hynny, mae rhai eisoes yn gofidio bydd diddymu'r tollau yn achosi tagfeydd.