Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cathod robotig i helpu pobl mewn cartref gofal 芒 dementia
Yn yr ymdrech ddiweddaraf i helpu pobl sydd 芒 dementia, mae un cartref gofal wedi troi at dechnoleg - ac at gathod robotig yn benodol.
Syniad Mary Effie Williams oedd cyflwyno'r cathod ffug i breswylwyr yng nghartref gofal Gwyddfor yng Nghaergybi, Ynys M么n.
Dywedodd Ms Williams: "Maen nhw'n bethau bach prydferth, fel cathod go iawn,".
"Maen nhw wedi'u gorchuddio gyda ffwr, maen nhw'n rhedeg ar fatri, ac maen nhw hyd yn oed yn canu grwndi!"
"'Da ni wedi'u cael nhw am dri neu bedwar mis ac maen nhw'n profi i fod yn declyn gwerthfawr iawn. Mae'r preswylwyr i gyd yn eu caru nhw.
"Maen nhw'n therapiwtig i'n preswylwyr ni i gyd, nid dim ond i'r rhai sy'n dioddef gyda dementia."
Cafodd Ms Williams, 55, ei henwebu gan ei g诺r Glyn am wobr yng Ngwobrau Gofal Cymru eleni, gyda'r seremoni yn digwydd yng Nghaerdydd ddydd Gwener 19 Hydref.
"Mae gennym ni 27 o breswylwyr yma, 11 ohonyn nhw gyda dementia, sy'n salwch creulon iawn," meddai Ms Williams.
"Mae'n rhaid i chi fod yn amyneddgar iawn gyda phobl sydd 芒 dementia, ond unwaith 'da chi'n dod i'w hadnabod nhw'n iawn mae 'na drawsnewid anhygoel."