Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wylfa Newydd: Colli swyddi i Loegr?
Gall swyddi wedi'u creu yn sgil Wylfa Newydd gael eu colli i Loegr oherwydd diffyg adeiladau i gwmn茂au lleol sy'n cyflenwi, yn 么l arbenigwr busnes.
Fe ddywed y cwmni sy'n gyfrifol am y prosiect, Horizon Nuclear Power, y byddai gorsaf niwclear 拢12bn yn cyflogi tua 9,000 o bobl ar ei hanterth, gan roi gwaith i amryw o gyflenwyr - o adeiladwyr i arlwywyr.
Dywedodd Cyngor M么n eu bod nhw'n ceisio darparu mwy o unedau busnes.
Mae Wylfa Newydd yn dal i ddisgwyl caniat芒d cynllunio a thystysgrifau morol.
'Helpu busnesau'
Mae'r orsaf hefyd mewn trafodaethau gyda llywodraeth y DU yngl欧n 芒 buddsoddi ac mae disgwyl i drethdalwyr gymryd rhan sylweddol yn y datblygiad.
Y disgwyl yw y byddai Wylfa Newydd yn cael yr un effaith 芒 Tata Steel ym Mhort Talbot ac Airbus ym Mrychdyn, a welodd swyddi newydd a chwmn茂au eraill gerllaw yn ffynnu.
Ond fe rybuddiodd Chris Sutton, cyfarwyddwr asiantaeth adeiladu JLL a chyn-gadeirydd CBI Cymru, y dylai cynghorau a Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod safleoedd busnes a stordai ar gael ar gyfer cwmn茂au sydd am elwa o fuddsoddiad prosiect Wylfa Newydd.
Ychwanegodd y dylai effaith y buddsoddiad gael ei weld yng ngogledd-orllewin Cymru gyfan, ac nid yn Ynys M么n yn unig.
"Os na wnawn ni hynny," meddai, "yna fe allwn ni weld y buddsoddiad a'r swyddi yn mynd lawr yr A55 i Fanceinion a Lerpwl.
"Mae'n rhaid i ni greu pecyn o adeiladau 'gradd A' sy'n addas ar gyfer y cwmn茂au cyflenwi sy'n mynd yno."
Un o'r sectorau all weld budd o'r atomfa newydd yw cwmn茂au bwyd.
Gethin Dwyfor ydy cyfarwyddwr reolwr Ffrwythau D.J. Fruits ym Mhorthmadog, sy'n cyflogi 20 o bobl.
Mae wedi bod yn ceisio ehangu am flwyddyn ond heb allu dod o hyd i adeilad digon mawr.
"'Da ni'n cael dipyn o broblemau'n symud 'mlaen," meddai.
"Da ni'n ffeindio bod 'na ddim digon o dir a llefydd i ni 'neud y busnes yn fwy.
"Mae angen sb茂o ar yr adeilada' sydd yno'n barod [ac] sydd ddim yn cael eu defnyddio. Mae 'na lefydd yng Ngwynedd - pam ddim 'neud rwbath efo'r tir yna a thrio helpu busnesa'?"
Ffordd newydd 拢12m yn Llangefni
Yn 么l y cynghorydd Carwyn Jones, sy'n gyfrifol am brosiectau mawr a datblygiad economaidd ar Gyngor M么n, mae'r awdurdod lleol yn gweithio'n galed i daclo'r broblem.
Dywedodd y bydd ffordd gyswllt newydd gwerth 拢12m yn Llangefni, pum uned fusnes newydd yn agor yn y dref a chynlluniau i agor 10 arall yng Nghaergybi.
Mae Horizon Nuclear Power, y cwmni tu 么l i Wylfa Newydd, hefyd wedi dweud eu bod nhw'n ymroddedig i adeiladu cadwyn gyflenwi ar yr ynys ac ar draws "y gogledd".