Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bar y Parrot yng Nghaerfyrddin i gau ddiwedd y flwyddyn
Bydd bar cerddoriaeth y Parrot yng Nghaerfyrddin yn cau ddiwedd y flwyddyn oherwydd problemau ariannol.
Mae'r bar yn adnabyddus yng ngorllewin Cymru a thu hwnt am roi llwyfan i gerddorion ifanc Cymraeg, ers ei agor saith mlynedd yn 么l.
Mewn datganiad ar ei gwefan, fe ddywedodd y Parrot: "Mae'n flin gennym ddweud y bydd y Parrot yn cau ei drysau ar ddiwedd 2018.
"Fe dr茂on ni, fe wir dr茂on ni, ond mae hi wedi dod yn glir i ni, er ein holl ymdrechion, nad oes modd cadw dau ben llinyn ynghyd."
Dywedodd Gruffydd Owen, rheolwr label Recordiau Libertino, bod y newyddion yn "glec anferth" i'r s卯n gerddorol Gymraeg.
"Y Parrot yw calon y s卯n, nid jest yng Nghaerfyrddin ond i bobl Sir Benfro a thu hwnt," meddai.
"Tu allan i Gaerdydd does 'na ddim llawer o venues sy'n cynnal gigs Cymraeg fel y Parrot - roedd tua dau yr wythnos.
"Dyw e ddim jest yn golled i Gaerfyrddin ond yn golled enfawr i Gymru - mae'n symbol o gymuned ifanc.
"Roedd hi'n beth dewr iawn i agor y Parrot yng nghanol Caerfyrddin. Falle bod hi'n anoddach cael pobl i fynd allan y dyddiau yma i gigs. Mae'n glec anferth."
Ymgyrch i godi arian
N么l yn 2014, llwyddodd ymgyrch ar-lein i godi mwy na 拢11,000 er mwyn cadw'r bar ar agor.
Ar 么l sicrhau digon o arian i gadw'r lle ar agor, fe drosglwyddodd y gr诺p West Wales Music Collective yr awenau i fenter newydd.
Ond mae'n debyg bod trafferthion ariannol wedi gorfodi'r perchnogion i gau.
Gan ddiolch i'r perfformwyr a'r ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd, dywedodd y Parrot y byddai'r amserlen yn aros yr un fath tan y diwrnod olaf ar nos galan.