Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cefnogi elusen tiwmor yr ymennydd sgw芒r wrth sgw芒r
Mae aelodau clwb gwn茂o yng Ngwynedd wedi creu cwilt arbennig ar gyfer achos da.
Mae 18 aelod o Glwb Gwn茂o Cwmtirmynach ger Y Bala wedi bod wrthi ers mis Ionawr yn creu cwilt sy'n cael ei roi fel gwobr raffl ddydd Sul, gyda'r elw'n mynd at achos da.
Mae'r criw wedi penderfynu rhoi'r arian i elusen tiwmor yr ymennydd, ac yn 么l Mim Roberts o'r clwb, mae rheswm penodol am hynny.
"Mae sawl un yn ein cymdeithas leol wedi colli rhywun annwyl o ganlyniad i diwmor ar yr ymennydd, felly fe wnaethom ni fel criw benderfynu gwneud hyn at achos da," meddai.
'Colli anwyliaid'
Mae'r criw yn dod at ei gilydd ddwywaith y mis ac yn cwrdd yn Neuadd Mynach.
Fe gafodd pob unigolyn y dasg o greu sgw芒r ar gyfer y cwilt, sydd bellach yn mesur hyd a lled gwely dwbl.
Mae gwaith y criw wedi cael ei ddangos dros y penwythnos mewn arddangosfa arbennig ac mae Clwb Croes Bwyth Maesywaen a Chlwb Gwn茂o Parc hefyd yn rhan o'r trefniadau.
Un aelod o'r clwb gwn茂o yw Bethan Jones a dywedodd wrth Cymru Fyw fod sawl person yn lleol yn gwerthfawrogi dewis y clwb i roi arian i Gronfa Tiwmor yr Ymennydd Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Mae nifer yn y gymuned wedi colli anwyliaid i'r cyflwr yma, felly roedden ni'n teimlo fel dosbarth mai dyma'r elusen y dylai elwa."
'Dangos diddordeb'
Yn 么l Ms Roberts, mae'r clwb wedi gwerthu dros 拢1000 o ran tocynnau raffl.
"Mae 'na lot wedi dangos diddordeb i ddod i'r arddangosfa a bydd y raffl yn cael ei dynnu brynhawn Sul."
Mae modd gweld arddangosfa o waith Clwb Gwn茂o Cwmtirmynach yn neuadd Mynach rhwng 10:00 a 15:00 ddydd Sul.