Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhaid 'newid agwedd cenhedlaeth' at wiberod y DU
Mae gan wiberod broblem delw allai olygu i'r rhywogaeth ddiflannu'n gyfan gwbl, yn 么l arbenigwyr.
Mae'r Amphibian and Reptile Groups of the UK (ARG UK) yn rhybuddio fod angen i "agwedd cenhedlaeth gyfan" newid tuag at y neidr.
Mae'r gr诺p wedi bod yn gweithio gyda dros 500 o ysgolion yn Sir Benfro er mwyn trefnu gorymdaith ble fydd cerflun o wiber yn llithro drwy ddinas Tyddewi.
Mae Cymru'n parhau yn wlad ble mae niferoedd uchel o'r neidr yn cynefino.
Dywedodd cydlynydd y prosiect, Dr Sam Langdon wrth 大象传媒 Cymru fod gwiberod yn diflannu ar hyd y DU, gyda dim ond "pocedi bach" o'r creaduriaid yn cael eu gweld.
'Peryglus'
Ychwanegodd mai erledigaeth a cholli cynefin yw'r prif resymau y tu 么l i ddiflaniad y neidr.
"Maen nhw wedi bod yn cael eu portreadu'n wael yn y wasg ers talwm. Mae pobl dal yn mynd allan ac yn eu lladd, yn eu gweld nhw fel rhywbeth peryglus a rhywbeth i'w hofni.
"Fe allwn wneud gwaith arolygu er mwyn ceisio eu diogelu, ond fy nheimlad yw, os nad ydyn ni'n newid sut mae pobl yn teimlo amdanyn nhw, fe wnawn ni eu colli nhw," meddai.
Er bod diffyg data yngl欧n 芒 phoblogaeth, dywedodd mai'r teimlad ar lawr gwlad ymysg arbenigwyr yw bod y neidr yn diflannu.
'Diflannu'
Y gred yw bod y neidr eisoes wedi diflannu o Sir Nottingham a Sir Warwick ac ar fin diflannu o Sir Rhydychen, Sir Buckingham, Sir Hertford a Llundain.
Mae'r elusen wedi bod yn cynnal gweithdai gyda phob ysgol yn Sir Benfro, gyda'r amcan o newid agweddau ymysg y genhedlaeth ifanc.
Mae disgwyl i gannoedd o bobl fynychu'r orymdaith ym maes awyr Tyddewi.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.