Pryfed ffrwythau a microsgop 拢1m yn brwydro dementia

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 70 o wyddonwyr o bob cwr o'r byd eisoes wedi cael eu recriwtio i'r ganolfan
  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru

Bydd pryfed ffrwythau a microsgop gwerth 拢1m yn helpu gwyddonwyr yng Nghaerdydd i geisio dod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer dementia.

Fe fydd yr ymchwil yn digwydd wedi i Brifysgol Caerdydd dderbyn 拢20m i sefydlu canolfan newydd i astudio clefydau fel Alzheimer's.

Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn ymchwil o'r fath yng Nghymru.

Nod y ganolfan fydd cydweithio 芒 phump o ganolfannau eraill ar draws Prydain i gynyddu'r ddealltwriaeth o beth sy'n achosi clefydau'r ymennydd, gyda'r gobaith yn y pendraw i ddod o hyd i driniaethau.

Mae dros 70 o wyddonwyr o bob cwr o'r byd wedi cael eu recriwtio i'r ganolfan, gyda'r gobaith o ehangu'r gr诺p i 100 yn y dyfodol agos.

Disgrifiad o'r llun, Bydd y ganolfan yn cydweithio 芒 phump o ganolfannau dementia eraill ar draws Prydain

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae dros 40 o enynnau sy'n cyfrannu at y risg o glefyd Alzheimer's wedi cael eu darganfod, a bydd y t卯m yng Nghaerdydd yn defnyddio'r wybodaeth hynny i weithio ar ddamcaniaethau a darganfyddiadau newydd.

Ond beth yn union fydd yn digwydd yn y ganolfan newydd?

Ymchwil ar bryfed ffrwythau

Yn un ystafell yn labordai'r ganolfan mae silffoedd sy'n llawn tiwbiau yn cynnwys miloedd o bryfed ffrwythau - ond pam?

"Wrach na fyddai pawb yn gwybod, ond mae pryfed yn fodel da iawn ar gyfer edrych ar glefydau niwrolegol," meddai Dr Emyr Lloyd-Evans, uwch ddarlithydd yn ysgol biowyddorau Prifysgol Caerdydd, fydd yn rhedeg labordy yn y ganolfan newydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae ymennydd pryfed ffrwythau yn debyg i rai pobl

"Mae ganddyn nhw ymennydd - bychan iawn - ond mae'n debyg i'n hymennydd ni.

"'Da ni felly'n gallu modelu ynddyn nhw sut mae Alzheimer's yn datblygu, ond yn gyflymach o lawer.

"Mewn pobl mae'n cymryd degawdau i weld symptomau Alzheimer's, ond mewn pryfaid mae'n digwydd mewn dyddiau i wythnosau."

Disgrifiad o'r llun, Mae t卯m Dr Emyr Lloyd-Evans yn cynnal profion ar ymennydd pryfed ffrwythau

Microsgop gwerth miliwn

Mewn ystafell arall mae microsgop robotig gwerth 拢1m gafodd ei gynhyrchu yn Llantrisant.

Cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi talu amdano.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd microsgop Opera Pheonix ei gynhyrchu yn Rhondda Cynon Taf

Mae microsgop Opera Pheonix yn gallu sganio a dadansoddi miloedd o gelloedd unigol ar gyflymder uchel syn caniat谩u i'r t卯m weld yn fanwl pa newidiadau sy'n digwydd mewn celloedd arbennig dros gyfnod o amser.

Y gobaith yw defnyddio'r microsgop i astudio'r newidiadau mewn celloedd bonyn [stem cells] sydd wedi'u haddasu er mwyn deall y prosesau biolegol sydd ynghlwm 芒 dementia.

Yw'r corff yn ymosod ar ei hun?

Mae ymchwil geneteg sydd eisoes wedi cael ei gyflawni yng Nghaerdydd yn awgrymu y gallai system imiwnedd y corff fod yn rhannol gyfrifol am ddatblygiad dementia.

Un o'r cwestiynau canolog y bydd ymchwilwyr y ganolfan yn ceisio'i ateb yw sut.

Dan amgylchiadau arferol mae system amddiffyn y corff yn gyfrifol am "dacluso" yr ymennydd a chael gwared ar gelloedd neu feinwe sydd wedi marw neu wedi cael eu difrodi.

Ond os yw'r system imiwnedd yn dechrau ymosod ar gelloedd iach, y gred yw y gall hynny arwain at Alzheimer's.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro Paul Morgan yn disgrifio dementia fel "clefyd sy'n dinistrio celloedd yr ymennydd"

Bydd yr Athro Paul Morgan, athro imiwnoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhedeg prosiect yn y ganolfan ac yn edrych yn benodol ar hynny.

"Y gred yn y lle cyntaf oedd bod yr ymennydd yn dirywio, neu'n pydru yn ara' bach mewn pobl 芒 dementia, ond nid hynny yw'r gwir o gwbl," meddai.

"Yn hytrach, mae'n glefyd llidol sy'n dinistrio celloedd yr ymennydd.

"Mae gwybod hynny'n caniat谩u i ni ddatblygu triniaethau newydd, oherwydd ry'n ni'n gallu delio 芒 llid, er enghraifft mewn cleifion 芒 chrud cymalau, ac efallai y gallwn ni efelychu hynny er mwyn trin clefydau'r ymennydd."