Golygydd newydd am gefnogi datblygiad Radio Cymru 2
- Cyhoeddwyd
Mae angen i fwy o bobl wybod am fodolaeth gwasanaeth Radio Cymru 2 a'r gwahanol ffyrdd o'i dderbyn, yn 么l golygydd newydd Radio Cymru yn ei hwythnos lawn gyntaf yn y swydd.
Dywedodd Rhuanedd Richards ei bod yn "hyderus iawn" y bydd y gwasanaeth a gafodd ei sefydlu gan ei rhagflaenydd, Betsan Powys "yn llwyddiannus", ac y byddai'r orsaf yn cael "pob cyfle a chefnogaeth bosib... i wreiddio a datblygu".
Ychwanegodd y byddai wrth ei bodd pe bai modd ystyried ymestyn darpariaeth yr orsaf, a bydd ymdrechion yn parhau i ddenu gwrandawyr newydd a iau i Radio Cymru.
Dywedodd hefyd y byddai'r orsaf "nid yn unig yn parchu ond yn amddiffyn" yr egwyddor o fod yn deg a diduedd yn sgil cwestiynau "digon teg" am ei chefndir yn y byd gwleidyddol, gan gynnwys cyfnod fel prif weithredwr Plaid Cymru.
Dywedodd wrth Post Cyntaf bod y cyfrifoldeb a'r disgwyliadau wrth iddi ddechrau ar y gwaith yn "enfawr", yn enwedig yn sgil "sefydlogi diweddar ffigyrau gwrando Radio Cymru".
"Y weledigaeth yn syml yw i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd iau, tra'n cadw'r cynulleidfaoedd presennol teyrngar iawn sydd gennym," meddai.
"Safon a natur cynnwys ein rhaglenni sydd yn mynd i ganiat谩u ac arwain at hynny.
"'Dwi ishe rhoi pob cyfle a chefnogaeth bosib i Radio Cymru 2 wreiddio a datblygu. Yr hyn sydd angen ei wneud nawr yn fy marn i yw i ddweud wrth fwy o bobl amdani."
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y posibilrwydd o ymestyn oriau Radio Cymru 2 atebodd: "Fyswn i wrth fy modd. Dwi'n meddwl bod hi'n gwbl wych bod gennym ddewis bellach o ddwy orsaf.
"Y flaenoriaeth ar hyn o bryd dwi'n credu, serch hynny, yw sicrhau fod mwy o bobl yn dod i wybod am y gwasanaeth trwy'r amryw ffyrdd mae modd 'i dderbyn e."
Ychwanegodd bod posibiliadau "enfawr" i'r orsaf ddenu gwrandawyr ymhlith dysgwyr Cymraeg.
"Mae'n ddyddiau cynnaf ond dwi'n hyderus iawn y bydd [Radio Cymru 2] yn llwyddiannus," meddai.
A hithau bellach hefyd yn gyfrifol am wasanaethau ar-lein Cymru Fyw, dywedodd bod nifer y defnyddwyr wythnosol "wedi cynyddu o ychydig dros 9,000 i dros 50,000 a dwi'n credu yn bendant bod yna le i adeiladu ar hynny ymhellach".
Gorsaf ddiduedd
Dywedodd Rhuanedd Richards bod hi'n "ddigon teg" i godi cwestiynau am ei chefndir yn y byd gwleidyddol yn y cyfnod rhwng ymddiswyddo fel gohebydd gwleidyddol gyda 大象传媒 Cymru a dychwelyd i'r gorfforaeth i'w swydd bresennol.
"Mae'n rhai blynyddoedd ers i mi fod yn brif weithredwr Plaid Cymru," meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi gweithio gyda phobl o bob cefndir gwleidyddol mewn swyddi eraill wedi hynny, "gan ennill, rwy'n gobeithio, ymddiriedaeth y pleidiau eraill".
"Fel cyn-ohebydd gwleidyddol... rwy'n deall pa mor bwysig yw hi i integriti ac i awdurdod yr orsaf hon yw ei bod hi'n ddiduedd, ac mi fydda fo'n gweithredu mewn ffordd sydd nid yn unig yn parchu hynny ond fydd yn amddiffyn hynny hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018