Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Trist' bod gwersi addysg gorfforol dal yn gwahaniaethu
Mae Comisiynydd Plant Cymru'n dweud ei bod hi'n "drist" cyn lleied o gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwersi addysg gorfforol.
Dywedodd Sally Holland ei fod yn bwnc "pwysig" sy'n cael ei godi gan ddisgyblion ysgol yn aml.
"Mae'n gwneud i ferched a bechgyn feddwl bod rhaid i'w bywydau gael eu cyfyngu i ryw lwybr neu'i gilydd, ac mae'n niweidiol gan fod y gwahaniaethu yn rhywbeth a all eu harwain oddi wrth chwaraeon ac ymarfer corff," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw reolau oedd yn cymell ysgolion i roi gwersi chwaraeon penodol i fechgyn neu ferched.
'Galw fi'n lesbian'
Mae Darcie Barry, sydd yn 13 oed ac o Gwmbr芒n, wedi bod yn chwarae p锚l-droed ers ei bod hi'n wyth oed.
"Fe wnaeth y bechgyn ofyn i mi basio'r b锚l yn 么l a nes i gicio hi gyda thipyn o nerth, felly nes i ddechrau chwarae gyda nhw," meddai.
Byddai Darcie yn hoffi chwarae'n broffesiynol rhyw ddydd, ac mae'n dweud ei bod hi eisiau herio'r stereoteip mai "g锚m i fechgyn" yw p锚l-droed.
"Maen nhw wedi fy meirniadu i a fy ngalw i'n ddyn, yn lesbian. Maen nhw wedi galw pob math o enwau arna i."
Dywedodd nad bechgyn yn unig oedd yn gyfrifol, a bod hyd yn oed rhieni weithiau yn gweiddi pethau fel "paid 芒 gadael i ferch dy daclo di".
"Chwaraeon merched yw hoci, p锚l-rwyd, dawns a phethau, ac i'r bechgyn p锚l-fasged, rygbi neu b锚l-droed yw e," meddai Darcie, sy'n chwarae yng nghanol cae i d卯m Albion Rovers.
"Rydw i'n gofyn i fy athrawon ymarfer corff os allai chwarae p锚l-droed achos mae'n un o'r rheiny sy'n cael ei argymell, ond maen nhw'n dweud na achos g锚m i fechgyn yw hi.
"Dwi ddim yn meddwl bod e'n iawn fod pobl yn beirniadu merched am chwarae p锚l-droed achos mae'n rhywbeth maen nhw eisiau gwneud ac yn mwynhau."
'Diffyg arbenigedd'
Dywedodd y Comisiynydd Plant fod gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwersi chwaraeon yn "syfrdanol" yn 2018, ond bod hynny'n adlewyrchu rhagfarnau ehangach o fewn cymdeithas.
"Mae merched yn dweud yn aml nad ydyn nhw'n cael llawer o gyfle i chwarae p锚l-droed a rygbi," meddai Sally Holland.
"Weithiau mae ganddyn nhw glybiau ble maen nhw'n gallu cymryd rhan ond dyw e ddim yn rhan o'u gwersi ymarfer corff craidd."
Ychwanegodd fod bechgyn hefyd yn teimlo eu bod wedi'u cyfyngu i chwarae p锚l-droed neu rygbi yn unig.
"Dwi'n gwybod y gallwn ni newid, dwi'n gwybod y gallwn ni wneud yn well."
Yn 么l Dr Nalda Wainwright, cyfarwyddwr Sefydliad Llythrennedd Corfforol Cymru, mae'r patrwm o ddilyn "chwaraeon traddodiadol" yn yr ysgol yn deillio n么l i ddeddfwriaeth o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Ond ychwanegodd nad y cwricwlwm oedd y broblem ar y cyfan.
"Mae e lawr i hyfforddi athrawon a dweud y gwir, eu harbenigedd nhw, a 'dyn ni'n gwybod fod diffyg yn yr arbenigedd yna yn enwedig mewn ysgolion cynradd," meddai Dr Wainwright.
"Dyw e ddim wir yn bwnc arbenigol ac mae athrawon yn tueddu i ail-greu'r profiadau gawson nhw."
'Dim gorfodaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni eisiau i bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i gael yr un cyfleoedd fel bod modd iddyn nhw fwynhau'r gamp o'u dewis nhw, a byw bywyd mwy actif ac iach.
"Does dim byd sy'n cyfeirio ysgolion tuag at ddilyn chwaraeon penodol i ferched a bechgyn, ac mae llawer eisoes yn edrych ar ffyrdd o daclo stereoteipio ar sail rhyw.
"Byddem yn annog ysgolion i rannu'r arferion da yma a pharhau i sicrhau cydraddoldeb a chyfartalwch rhyw drwy'r ysgol gyfan."
Dywedodd llefarydd ar ran undeb addysg yr NEU nad oedden nhw'n disgwyl i "unrhyw ddisgybl" wynebu stereoteipio ar sail rhyw pan mae'n dod at wersi chwaraeon.
Wrth gyfeirio at achos Darcie Barry, ychwanegodd yr undeb: "Mae'n annerbyniol fod y ferch ifanc o Dorfaen wedi cael ei thrin fel hyn.
"Bydden ni'n gobeithio am ychydig o synnwyr cyffredin fel bod modd gwyrdroi'r penderfyniad i beidio 芒 gadael iddi chwarae p锚l-droed."