Tystiolaeth Oes yr I芒'n cael ei ddinistrio ar draeth Lleiniog

Ffynhonnell y llun, Gareth Phillips

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l yr honiadau, symudodd gweithwyr Cyngor M么n y cerrig sy'n dyddio'n 么l i Oes yr I芒

Mae safle o ddiddordeb gwyddonol "wirioneddol bwysig" wedi cael ei "ddinistrio" gan weithwyr cyngor ar draeth ym M么n, yn 么l yr honiadau.

Cafodd creigiau anferth sy'n dyddio'n 么l i Oes yr I芒 eu symud wrth i waith atal llifogydd gael ei wneud ar draeth Lleiniog yn Llangoed.

Honnodd trigolion lleol bod gwelyau mawn 么l-rewlifol wedi cael eu difrodi gan y gwaith.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud eu bod yn ymchwilio i'r mater, ond dywedodd Cyngor M么n fod ganddynt drwydded ar gyfer y gwaith.

Yn 么l Gareth Phillips, aelod o Gr诺p Ffrindiau Cymuned Llangoed: "Mae'n un o'r pethau mwya' twp a thrasig dwi erioed wedi gweld yn cael ei wneud ym Mhrydain."

Ffynhonnell y llun, Gareth Phillips

Disgrifiad o'r llun, Roedd y cyngor yn gwneud gwaith atal llifogydd ger afon ar y traeth

Roedd cerrig mawrion yn frith dros draeth Lleiniog, sy'n rhedeg ar hyd culfor Menai.

Dywedodd CNC bod y safle'n cynnig "y tystiolaeth egluraf yng ngogledd Cymru o gyrch ia o F么r yr Iwerydd yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd", sef yr Oes yr I芒 diweddaraf.

Roedd gan weithwyr Cyngor M么n drwydded i wneud gwaith i atal afon fach gerllaw rhag gorlifo dros ffordd gyfagos.

Ffynhonnell y llun, Gareth Phillips

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru a CNC yn bwriadu ymchwilio i adroddiadau'r trigolion lleol

Ond "symudodd y gweithwyr 200 llaeth lawr y traeth a chodi'r cerrig o ddiddordeb gwyddonol", yn 么l Mr Phillips.

"Doedd ganddynt ddim rheswm na thrwydded i fod yno," meddai.

"Mae'r gymuned leol yn torri'u calonnau am hyn."

Cadarnhaodd Euros Jones, rheolwr gweithrediadau'r gogledd ar ran CNC bod Llywodraeth Cymru a CNC yn cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau o ddifrod i'r safle, ac yn edrych i weld os oedd y gwaith yn torri amodau'r drwydded.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor M么n: "Roedd gennym Drwydded Forwrol gan CNC i gwblhau'r gwaith dan sylw. Roeddem hefyd wedi cadarnhau gyda Gwasanaeth Gynllunio Archeoleg Gwynedd nad oeddem yn gweithio yn yr ardal warchodedig sydd wedi ei farcio ar eu mapiau nhw."