Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Darpariaeth Cymraeg i bobl 芒 dementia yn annigonol'
Nid yw anghenion siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ddementia yn cael eu bodloni, yn 么l adroddiad newydd.
Er bod polis茂au Llywodraeth Cymru'n nodi bod gofal trwy'r Gymraeg yn angen clinigol ac nid yn fater o ddewis, nid yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gwasanaethau sydd ar gael ar lawr gwlad.
Daw'r canfyddiadau o adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher gan Gomisiynydd y Gymraeg ac Alzheimer's Society Cymru.
Fel rhan o'r prosiect cafodd darn o ymchwil ei gomisiynu yn holi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr am eu profiadau.
Fe ddangosodd yr ymchwil nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael ei gynnig yn aml, a bod hynny'n effeithio'n "andwyol" ar siaradwyr Cymraeg 芒 dementia.
Mae gwraig o Bwllheli sydd wedi bod yn byw gyda dementia am ddegawd wedi dweud pa mor bwysig yw derbyn gofal drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Pum deg tri oed oedd Glenda Roberts pan sylweddolodd hi gyntaf fod rhywbeth ddim yn iawn.
Dywedodd bod ei theulu wedi sylweddoli ei bod hi'n anghofio "pethau bach fel penblwyddi ac ati", a'i bod hi ei hun hefyd wedi sylweddoli nad oedd hi'n gallu cyflawni ei swydd i'r un safon 芒'r arfer.
Ers derbyn y diagnosis mae Ms Roberts wedi derbyn y gofal i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
'Slofi'r dementia lawr'
"Mae'n ofnadwy o bwysig... mae'n iawn i bawb gael siarad yn ei iaith gyntaf, mae pawb yr un peth dwi'n meddwl dim ots pa iaith yw hi," meddai.
"Mae o'n gwneud i bobl deimlo'n braf, ac efallai bod pobl efo dementia ddim yn cofio be' maen nhw wedi bod yn neud, ond maen nhw'n gwybod bod nhw'n teimlo'n braf."
Er y cyflwr mae Glenda dal yn cadw'n brysur ac yn mynd i ddawnsio a chwarae tenis bwrdd rhwng siarad mewn ysgolion.
Ychwanegodd na fyddai hi wedi "gwneud hanner y pethau dwi wedi 'neud" heb y gofal yma, gan bo' fi'n cadw mor brysur, mae o wedi helpu slofi'r dementia lawr".
Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar sut mae pobl 芒 dementia yn cael eu hasesu, a sut mae cyfrwng iaith asesiadau yn gallu effeithio ar ganlyniad y gofal y byddan nhw'n ei dderbyn yn sgil hynny.
Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi'n "amlwg i mi o'r gwaith ymchwil hwn mai ystyriaeth 'ychwanegol' yw'r Gymraeg i ofal dementia yn aml".
Ychwanegodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymru Alzheimer's Society Cymru: "Mae canlyniadau'r gwaith ymchwil yn dangos yn glir fod methu cynnig gwasanaethau yn yr iaith fwyaf addas yn gallu arwain at oedi wrth roi diagnosis ac yn gallu cael effaith wrth gynllunio a chynnig gofal i siaradwyr Cymraeg gyda dementia."
Gwasanaethau Cymraeg yn 'allweddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau Cymraeg yn "allweddol" i "ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal o ansawdd uchel".
"Mae ein fframwaith 'Mwy na Geiriau'... yn cydnabod bod defnyddio'u hiaith eu hunain yn elfen graidd o ofal i lawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig y rhai sydd 芒 dementia."
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn ddiweddar wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol i asesu effaith y fframwaith ac y byddan nhw'n "ystyried yr adroddiad hwn yn drylwyr er mwyn ein helpu i flaenoriaethu camau gweithredu yn y dyfodol".