Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Defnyddiwch eich hawl i frechiad ffliw am ddim'
Mae pobl sydd 芒 phroblemau iechyd hirdymor yn cael eu hannog i amddiffyn eu hunain rhag y ffliw eleni.
Dangosodd ffigyrau ar gyfer gaeaf 2017 mai hanner y bobl oedd 芒'r hawl i frechiad am ddim a gymrodd fantais o hynny.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio y gallai rhai pobl fod yn peryglu eu hiechyd drwy beidio 芒 mynd am frechiad.
Gall pobl sydd 芒 chyflyrau fel diabetes, cyflyrau ar y galon, yr afi/iau neu'r aren gael brechiad am ddim.
'Peidiwch 芒 chymryd risg'
Mae'r ffliw yn lledaenu drwy ddiferion sy'n teithio drwy'r awyr wrth i berson beswch neu disian.
Mae modd ei ddal hefyd drwy ddod i gysylltiad 芒 dwylo neu arwynebedd sydd wedi eu heintio.
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Jean White: "Mae amddiffyniad ar gael, a brechiad ffliw blynyddol yw'r ffordd orau o atal eich hun rhag dal y ffliw, all wneud eich cyflwr yn waeth ac arwain at gymhlethdodau peryglus.
"Peidiwch 芒 chymryd risg - gwnewch yn siwr eich bod yn cael eich brechiad eleni."