大象传媒

Y sioe gerdd gydag artistiaid byddar ac iaith arwyddo

  • Cyhoeddwyd

Mae cynhyrchiad arloesol yn teithio Cymru ar hyn o bryd - cynhyrchiad gwbl ddwyieithog o'r sioe gerdd The Last Five Years.

'Dyw dwyieithrwydd ddim yn anarferol yng Nghymru wrth gwrs, ond y ddwy iaith yn y sioe yma yw Saesneg ac Iaith Arwyddo Prydain (BSL).

Dyma gynhyrchiad cyntaf cwmni newydd Cynyrchiadau Leeway, a chafodd Cymru Fyw sgwrs ag Angharad Lee, y cyfarwyddwr, yngl欧n 芒 sut beth oedd dod 芒 dau ddiwylliant ynghyd i greu un sioe:

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr artistiaid byddar Raffie Julien ac Anthony Snowden yn portreadu Cathy a Jamie

O'n i mo'yn ffeindio ffordd newydd o feddwl am a chyfarwyddo cerddoriaeth. Nes i feddwl 'sa hi'n ddiddorol i weithio gydag artistiaid byddar, achos os nad wyt ti'n gallu clywed y gerddoriaeth, sut wyt ti'n dechrau deall a gwerthfawrogi'r peth?

Ges i weithio 'da'r coreograffydd byddar Mark Smith am wythnos a dysgu llawer wrth ein gilydd, a 'naethon ni benderfynu dod 芒 choreograffi sy'n cael ei lywio 芒 BSL i mewn i sioe gerdd.

Sioe i ddau actor yw The Last Five Years yn wreiddiol, ac ry'n ni wedi ei droi yn sioe i bedwar, gyda dau ddawnsiwr byddar hefyd yn portreadu'r cymeriadau, Jamie a Cathy. Mae popeth wedi plethu.

Mae gennyn ni Saesneg, BSL, sign-supported English a visual vernacular yn y sioe, felly'r her oedd symud o un peth i'r llall heb ei fod yn clunky, a bod y naratif dal yn llifo.

Nes i gymryd wythnose i feddwl sut o'dd popeth am weithio. Roedd angen cael y drafodaeth 芒 phawb, achos, wrth gwrs, mae perception dawnsiwr byddar o g芒n am fod yn hollol wahanol i un person sy'n clywed.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyfarwyddwr, Angharad Lee, yn canolbwyntio ar gynhyrchu sioeau cerdd gyda'i chwmni Cynyrchiadau Leeway

'Naethon ni hefyd gymryd amser i ddeall anghenion pawb. Mae gan Raffie cochlear implant, ac hebddo, mae hi'n fyddar iawn. Mae gan Anthony ddau declyn clywed, ac mae'n clywed yn weddol dda. Felly mae eu anghenion nhw'n wahanol.

Mae Raffie yn ddibynnol ar syncio'i dawnsio 芒 phatrwm gwefusau'r gantores, Lauren, felly mae hi'n ei gwylio'n ofalus. Yn yr ystafell ymarfer, roedd angen troi s诺n y piano i lawr, fel ei bod hi'n medru clywed canu Lauren yn well. Ond 'da Anthony, mae e hollol i'r gwrthwyneb. Felly yn y perfformiadau, mae lefel sain y band yn gorfod bod yn wahanol i'r ddau berfformiwr.

Roedden ni'n gadael i'r anghenion hynny fwydo'r cynhyrchiad, yn hytrach na'u gweld fel problem. Mae'n rhan o aesthetic y cynhyrchiad, a dyna sy'n ei wneud mor hyfryd a mor wahanol.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Samway a Lauren Hood fel Jamie a Cathy - mae'r cantorion yn arwyddo wrth ganu

Mae'r perfformwyr sy'n canu yn arwyddo, ac mae Anthony, un o'n dawnswyr byddar ni, yn canu hefyd. Wrth gwrs ei fod e'n fyddar, ond dyw hynny ddim yn golygu bod ganddo fe ddim y sgilie.

O'n i rili mo'yn gwthio'r ffinie gymaint ag o'n i'n gallu, a defnyddio'r sgilie o'dd gyda ni yn y sioe. Ti'n cael dy fwydo gan y sgiliau sydd yn y cast, felly 'naethon ni ddod i 'nabod pob perfformiwr a gweld beth oedden nhw'n gyfforddus yn ei wneud.

Fel cyfarwyddwr, mae gen ti weledigaeth, ac roedd jest angen gweld sut oedd gwireddu hynny. Doedd pethau ddim yn amhosib, roedd jest angen addasu i wneud i bethau weithio i bawb.

Mae dau ddiwylliant yma - yr un byddar a'r un clywed - ac mae'r ddau ddiwylliant wedi cyd-greu'r cynhyrchiad.

Fi'n teimlo fel bo' ni 'di pwsho'r genre i dir hollol newydd. Falle fydd popeth ddim yn berffaith, ond ni 'di dechrau agor y drafodaeth mas.

Hefyd o ddiddordeb...