Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am lefel hunan-niweidio ymysg troseddwyr ifanc
Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ag un o'r cyfraddau uchaf o hunan-niweidio ymysg troseddwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr, yn 么l ffigyrau newydd.
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth (FOI) - sydd wedi'u dadansoddi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru - fod 160 achos o hunan-niweidio yno yn 2017.
Ar gyfartaledd roedd tua 40 o fechgyn 15-17 oed yn cael eu cadw yno ar unrhyw adeg.
Roedd 113 achos o drais yno hefyd - y gyfradd uchaf yng Nghymru a Lloegr ymhlith carchardai cyffelyb.
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Monitro Annibynnol y carchar, Wenda Hatherley, fod angen dadansoddiad pellach o'r ffigyrau.
"Does dim amheuaeth bod yr Uned yn amgylchedd heriol a newidiol... sy'n effeithio ar y bobl ifanc a leolir yno a'r staff sy'n gofalu amdanyn nhw," meddai Ms Hatherley.
"Mae digwyddiadau treisgar yn digwydd, rhwng pobl ifanc a hefyd yn erbyn staff.
"Mae monitro'r Bwrdd yn nodi bod y rhan fwyaf o'r digwyddiadau hyn rhwng pobl ifanc yn isel ac mae ymyrraeth brydlon gan staff yn lleihau'r risg o hynny'n cynyddu.
"Rydym yn ymwybodol bod gofyn i'r staff gofnodi pob digwyddiad o drais neu hunan-niwed yn ddiwyd, ac o ganlyniad mae angen dadansoddiad pellach sylweddol o'r ystadegau cyson a gynhyrchir."
'Codi cwestiynau brys'
Yn 2016, roedd archwiliad yn feirniadol o Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, gan gynnwys diogelwch yno - ond roedd gwelliannau yn yr adroddiad llynedd.
Dywedodd y carchar bod cwymp o 80% wedi bod yn nifer achosion o hunan-niweidio, a chwymp o 18% yn nifer o achosion trais.
Yn 么l Dr Robert Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r data'n dangos y "niferoedd brawychus o hunan-niwed a thrais sy'n cael ei brofi gan blant yn y ddalfa".
"Mae'r ffigyrau diweddaraf hyn yn codi cwestiynau brys dros lefelau diogelwch mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys Carchar y Parc, uned blant yng Nghymru sydd wedi'i leoli yn un o'r carchardai mwyaf yn y DU," meddai.
"Mae'r wybodaeth a gawsom yn rhoi mewnwelediad unigryw i ddiogelwch a thriniaeth plant yn y ddalfa. Gobeithiwn y bydd yn cynorthwyo'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wrth iddi barhau i archwilio'r system cyfiawnder yng Nghymru."
Yn 么l Andrew Neilson o Gynghrair Howard, sy'n ymgyrchu dros newid yn y system garchardai, mae'r ffigyrau yn "dangos mewn manylder graffig pam nad yw carchar yn lle addas i blentyn".
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM: "Mae diogelwch a lles pob person ifanc yn y ddalfa yn flaenoriaeth, dyna pam yr ydym eisoes yn buddsoddi mewn mwy o staff rheng flaen ac yn adeiladu ar ein diwygiadau i ddalfa ieuenctid.
"Ers creu ein rhaglen ddiwygio cyfiawnder ieuenctid y llynedd, mae adroddiadau arolygu wedi tynnu sylw at welliannau yn yr holl safleoedd o dan 18 oed y maent wedi'u harolygu ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen 芒'r diwygiadau hanfodol hyn er mwyn i ni gael sefydliadau troseddwyr ifanc mwy diogel, mwy adsefydliadol."