Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caniat谩u adolygiad barnwrol i ddiswyddiad Carl Sargeant
Mae teulu'r cyn-weinidog llywodraeth, Carl Sargeant wedi cael caniat芒d i herio'r ffordd y mae ymchwiliad i'w ddiswyddiad yn cael ei gynnal.
Roedd y teulu wedi dweud y dylai eu cyfreithwyr nhw gael galw a chroesholi tystion fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae'r Uchel Lys yn Llundain bellach wedi penderfynu caniat谩u adolygiad barnwrol, a hynny wedi i'r teulu gael eu gwrthod mewn gwrandawiad blaenorol.
Mae'r ymchwiliad i ddiswyddiad Mr Sargeant o gabinet Llywodraeth Cymru wedi cael ei ohirio yn dilyn yr her gyfreithiol i sut y dylai gael ei gynnal.
Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref ym mis Tachwedd y llynedd, bedwar diwrnod ar 么l cael ei ddiswyddo.
Roedd wedi cael ei wahardd o'i swydd yn dilyn honiadau yr oedd yn eu gwadu o ymddygiad amhriodol.
Yn dilyn marwolaeth Mr Sargeant fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi ymchwiliad annibynnol i'r modd y deliwyd gyda diswyddiad y gweinidog.
Ond cafodd yr ymchwiliad hwnnw ei herio gan deulu Mr Sargeant, gyda'i wraig Bernie Sargeant yn dweud y gallai "guddio'r gwirionedd".
Clywed tystiolaeth
Roedd y teulu'n anhapus na fyddai eu cyfreithwyr nhw'n cael croesholi tystion, y gallen nhw gael eu gwahardd o wrandawiadau, ac y gallai tystiolaeth eiriol gael ei "atal rhag cael ei chlywed yn gyhoeddus".
Mewn gwrandawiad yr wythnos diwethaf cafodd cais y teulu am adolygiad barnwrol ei wrthod.
Ond mae hwnnw bellach wedi'i ganiat谩u, ac mae disgwyl i'r achos gael ei glywed yng Nghaerdydd ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Dywedodd cyfreithiwr ar ran teulu Mr Sargeant: "Rydyn ni'n amlwg yn falch gyda'r canlyniad heddiw, mae'n un rhwystr sydd wedi'i basio ac fe fyddwn ni nawr yn cael gwrandawiad llawn.
"Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n gweld y synnwyr yn ein dadleuon ni ac yn dod at y bwrdd gyda chynigion allai ganiat谩u i gadeirydd yr ymchwiliad gynnal ymchwiliad go iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r penderfyniad i roi caniat芒d yn golygu dim ond bod y llys wedi dyfarnu bod modd dadlau'r achos, a bydd gwrandawiad llawn nawr yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr.
"Ni fyddai'n iawn i wneud sylw pellach o ystyried y camau cyfreithiol sydd yn parhau."