CBDC yn cyhoeddi enillwyr gwobrau p锚l-droed llawr gwlad

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwobrau eu lansio ym mis Mai gan reolwr Cymru, Ryan Giggs

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi enillwyr gwobrau p锚l-droed ar lawr gwlad 2018.

Pwrpas y gwobrau yw rhoi cydnabyddiaeth i rai o glybiau ac unigolion sy'n helpu datblygu'r g锚m yn lleol ac ar lefel rhanbarthol.

Ymysg yr enillwyr oedd Cynghrair Ieuenctid Ll欧n ac Eifionydd, Clwb P锚l-droed Abergwaun, a'r hyfforddwr David Nickless.

Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth CBDC, Neil Ward: "Mae hi wastad yn gr锚t cael cyfle i ddysgu am arwyr p锚l-droed yng Nghymru.

"Mae mwy o bobl ifanc yn chwarae p锚l-droed nac erioed o'r blaen, ac mae'n rhaid i ni gydnabod y cannoedd o arwyr ar lawr gwlad sy'n ildio'i hamser bob wythnos be bynnag y tywydd."

Ychwanegodd bod yr ymddiriedolaeth yn gobeithio gweld 50% o blant Cymru yn chwarae p锚l-droed unwaith yr wythnos erbyn 2024.

Yr enillwyr yn llawn:

  • Clwb Cymunedol y flwyddyn - Clwb P锚l-droed Abergwaun
  • Hyfforddwr Cymunedol y flwyddyn - Amlyn Ifans, Clwb P锚l-droed Bow Street
  • Cynghrair ieuenctid y flwyddyn - Ll欧n & Eifionydd
  • Gwirfoddolwr y flwyddyn - Colin Jackson, Clwb P锚l-droed Penycae
  • Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn - Joseph Proietti, Cymdeithas Dyfarnwyr Port Talbot
  • Cyflawniad arbennig - David Nickless
  • Darparwyr 'Fun Football' y flwyddyn - Sports Xtra (Gwent)
  • Prosiect p锚l-droed ar lawr gwlad y flwyddyn - Clwb P锚l-droed Merched St Florence (Dinbych-y-pysgod)

Derbyniodd David Nickless y wobr am gyflawniad arbennig yn y maes gan Ian Rush, mewn seremoni yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn i Gymru herio Denmarc nos Wener.

Yn ystod ei yrfa gyda Chymdeithas B锚l-droed ysgolion cynradd Sir Fflint, cyfrannodd Mr Nickless at hyfforddiant sawl enw mawr gan gynnwys Ian Rush, Gary Speed, Michael Owen a Wayne Hennessey.

Dywedodd Mr Ward: "Mae o [Mr Nickless] yn byw a bod p锚l-droed ac wedi helpu datblygu talentau rhestr hirfaith o enwau mawr... mae o'n un o hoelion wyth y g锚m ar lawr gwlad ac wedi helpu miloedd o bobl ifanc dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o'r llun, Amlyn Ifans, rheolwr yng Nghlwb P锚l droed Bow Street, oedd enillydd gwobr hyfforddwr cymunedol y flwyddyn

Cynghrair ieuenctid Ll欧n ac Eifionydd oedd enillwyr y wobr am gynghrair ieuenctid y flwyddyn oherwydd eu "hangerdd" a'u gallu i ddarparu p锚l droed i tua 800 o blant rhwng chwech ac 16 oed yng ngogledd Cymru.

Yn 么l CBDC mae'r gynghrair yn sicrhau fod cyfleusterau ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn llwyddo i hyrwyddo'r ymgyrch 'Parch', ac wedi ymrwymo i sicrhau fod p锚l-droed yn ffynnu yn eu hardal.

Amlyn Ifans o Glwb P锚l-droed Bow Street ger Aberystwyth oedd enillydd hyfforddwr y flwyddyn.

Cafodd ei gydnabod am ei ymdrechion wrth hyrwyddo p锚l-droed merched yn yr ardal, yn ogystal 芒'i r么l fel hyfforddwr y t卯m bechgyn dan 14.

Ychwanegodd Mr Ward: "Mewn blwyddyn lle mae p锚l droed merched wedi datblygu cymaint... mae nifer o'r enillwyr wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion i ddatblygu'r g锚m ymysg merched."