大象传媒

Gwahardd AC Llafur Jenny Rathbone am sylwadau am Iddewon

  • Cyhoeddwyd
Jenny Rathbone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jenny Rathbone wedi ymddiheuro am sylwadau "ansensitif" a wnaeth am bryderon y gymuned Iddewig yng Nghaerdydd

Mae'r AC Llafur Jenny Rathbone wedi cael ei gwahardd o gr诺p y blaid yn y Cynulliad.

Fe ddaeth y penderfyniad yn dilyn sylwadau a wnaeth hi yn awgrymu bod pryderon Iddewon yng Nghaerdydd am eu diogelwch wedi eu "creu yn eu pennau".

Mae Ms Rathbone wedi ymddiheuro am y sylwadau, a dywedodd ei bod yn "gobeithio y caiff y mater ei ddatrys cyn gynted 芒 phosib".

Y gred yw bod AC Canol Caerdydd wedi ei gwahardd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i'r achos.

Sylwadau 'annerbyniol'

Daeth sylwadau Ms Rathbone wrth ymateb i gwestiwn am fesurau diogelwch ychwanegol yn synagog Cyncoed y llynedd.

Dywedodd bod ymddygiad Llywodraeth Israel fel "gorchfygwr" yn arwain at agweddau "gelyniaethus tuag at y gymuned Iddewig yn y wlad yma".

Dywedodd hefyd: "Mae'r ffaith fod y synagog Iddewig yng Nghyncoed yn [sain aneglur] gaer yn syniad anghysurus iawn.

"Mae faint ohono sy'n angenrheidiol a faint ohono sydd wedi cael ei chwyddo a'i greu yn eu pennau yn anodd ei feirniadu gan rywun o'r tu allan, ond dwi'n meddwl bod y meddylfryd o fod dan warchae yn rhan ohono."

Cafodd papur y Jewish Chronicle afael ar recordiad o Jenny Rathbone yn gwneud y sylwadau mewn sesiwn holi ac ateb yng Nghaerdydd y llynedd.

Mae arweinwyr Iddewig wedi dweud bod y sylwadau'n "anfaddeuol".

Fe wnaeth Ms Rathbone gydnabod bod ei sylwadau'n "ansensitif" ac "annerbyniol".

Yn 么l llefarydd gr诺p y blaid Lafur yn y Cynulliad mae Ms Rathbone wedi ei gwahardd tan fod y blaid Brydeinig yn ystyried camau disgyblu.