Cyflwyno targed newydd ar drin canser yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno un targed amser newydd ar gyfer cleifion canser - mewn ymdrech i gyflymu diagnosis a gwella cyfraddau goroesi.
Yn 么l yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, fe fydd y newid yn caniat谩u i'r gwasanaeth iechyd gynnig gwell gofal a thriniaeth sy'n fwy prydlon.
Daw'r newid yn sgil pryderon nad yw'r targedau canser presennol yn adlewyrchu'r oedi sylweddol mae rhai cleifion yn wynebu wrth aros am ddiagnosis neu driniaeth.
Mae'r newid yn digwydd ar adeg pan fo arbenigwyr hefyd yn rhybuddio bod gwasanaethau canser yn cael trafferth ymdopi 芒 chynnydd mawr yn niferoedd y cleifion.
Y gobaith yw y bydd cyflwyno "Un Llwybr Canser" yn caniat谩u i'r system adnabod yn well lle mae'r rhwystrau yn digwydd er mwyn blaenoriaethu buddsoddiad i'w datrys.
Mae arbenigwyr canser ac elusennau yn croesawu'r newid, sydd wedi cael ei drafod am flynyddoedd.
Yn 么l Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Cymru elusen Macmillan, maent yn "gefnogol" i'r cynllun, ond bod "pethau'n gorfod bod yn eu lle hefyd er mwyn i hyn weithio".
Pan gafodd y syniad ei dreialu gyntaf bedair blynedd yn 么l, dywedodd y gwrthbleidiau fod Llywodraeth Cymru yn ceisio "newid targedau na allai eu bodloni".
Wrth ymateb i'r cynllun, dywedodd Claudia McVie, Prif Weithredwr Tenovus: "Does yna ddim rheswm pam y dylai amseroedd aros a chyfraddfau goroesi Cymru barhau i fod y tu 么l i wledydd datblygedig tebyg, a dyma obeithio bod yr Un Llwybr Canser yn ddechrau ar ddatrys rhai o'r problemau sydd angen eu datrys ar frys."
Beth sy'n mynd i newid?
Ar hyn o bryd, mae cleifion yn dilyn un o ddau lwybr 芒 thargedau gwahanol, yn ddibynnol ar sut mae'r canser yn cael ei ddarganfod.
Dylai cleifion sydd ag arwyddion clir ac amlwg o ganser penodol gael eu hanfon at arbenigwr yn syth. Ar 么l cadarnhau'r canser, dylai 95% ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.
Mae'r ail darged yn cyfeirio at gleifion sydd 芒 symptomau sy'n llai eglur - sydd o bosib wrthi'n cael profion am broblem iechyd eraill. Os daw diagnosis canser yn dilyn hynny, fe ddylai 98% o gleifion dderbyn triniaeth o fewn 31 o ddiwrnodau.
Ond mae arbenigwyr yn poeni nad yw'r targed hwn yn adlewyrchu gwir amseroedd aros, gan y gallai claf fod wedi gorfod aros am fisoedd lawer cyn cael diagnosis - ac nad yw'r system yn cofnodi'r oedi hwnnw.
Byddai'r un targed newydd yn gweld y cloc ymhob achos yn dechrau pan fo canser yn cael ei amau. Y bwriad yw dechrau triniaeth ddim hwyrach na 62 diwrnod o'r pwynt hwnnw.
Perfformiad ar hyn o bryd?
Nid yw'r targed 62 diwrnod wedi cael ei gyrraedd yng Nghymru ers 2008. Fodd bynnag, mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi cael gwell llwyddiant o ran y targed 31 diwrnod.
Mae perfformiad ar amseroedd aros canser, yn gyffredinol, wedi aros yn sefydlog yn ystod blynyddoedd diwethaf er bod y galw wedi cynyddu'n sylweddol.
Cyfaddefodd Mr Gething fod y system wedi "methu cyrraedd y targedau yn ddigon aml".
Bydd y targed newydd yn cael ei gyhoeddi gan fyrddau iechyd o fis Mehefin y flwyddyn nesaf a bydd y ddau darged presennol yn parhau i gael eu hadrodd am y tro.
Ond os caiff y targedau presennol eu diddymu yn y pen draw, gallai fod yn anoddach cymharu perfformiad canser yng Nghymru 芒 gwledydd eraill y DU.
Ond mae 大象传媒 Cymru'n deall bod arbenigwyr yn Yr Alban yn dilyn datblygiadau yng Nghymru.
Mae astudiaethau rhyngwladol yn dangos fod cyfraddau goroesi canser yn y DU, ac yn enwedig yng Nghymru yn wael iawn o'i gymharu 芒 llawer o wledydd Ewropeaidd neu wledydd eraill 芒 systemau gofal iechyd tebyg.
Mae nifer o ymdrechion wedi cael eu cyflwyno i geisio gwella'r sefyllfa - er enghraifft helpu meddygon teulu i adnabod arwyddion canser yn gynharach; cynyddu'r gweithlu radioleg a threialu system o gyfeirio cleifion a symptomau aneglur i glinigau arbennig mewn dwy ardal - yn seiliedig ar fodel gafodd ei ddatblygu yn Nenmarc.
Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn gartref i un o'r clinigau hynny, ac yn 么l Si芒n Phillips, ymgynghorydd radioleg yno, mae'r system yn "rhwydd ac yn gyflym" wrth roi diagnosis canser i gleifion.
"Yr holl beth yw ein bod ni'n pigo'r pethau hyn lan yn gynnar, a dwi'n credu bod y clinig hyn wedi llwyddo i 'neud 'ny.
"Mae dros 10% o'r cleifion ni wedi gweld wedi cael diagnosis o ganser ac mae rhai o'r rheini wedi cael eu diagnoso'n gynnar iawn, so mae hwnnw'n helpu lot ar driniaeth y person."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd2 Awst 2017
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2016