Ateb y Galw: Y gantores Sh芒n Cothi

Y gantores a'r cyflwynydd Radio Cymru, Sh芒n Cothi, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Catherine Ayers yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Delwedd o finne yn faban mewn hen bram yn y cae gwair adre yn Ffarmers a mrawd Eirian yn meddwl bydde fe'n syniad gr锚t i dipo fi mas o'r pram - llawn drygioni!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Starsky a Hutch.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Rhedeg ffwl pelt a sgrechen mas o'r dosbarth gwn茂o i lawr i gaeau chware Ysgol Llanbed yn wallgo' oherwydd bod rhywun yn chaso fi 'da choryn! (Shimpil braidd!)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Cyn 'neud abseil i 大象传媒 Radio Cymru!

Disgrifiad o'r fideo, I gefnogi ymgyrch Pawen Lawen Al Hughes, fe wnaeth Caryl Parry Jones a Sh芒n Cothi rywbeth arbennig iawn

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wastad yn llwyddo i redeg yn hwyr a siarad gormod!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adre... lle ma' popeth cyfforddus o nghwmpas, boed yn stabl neu'n gaeau. Llyn y Fan hefyd yn nefoedd ar y ddaear.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Wwwfff anodd achos ma' cyment ohonynt!

Fel arfer, y noson orau yw'r uchafbwynt mwyaf diweddar llawn adrenalin yn fy mywyd - o noson agoriadol Phantom of the Opera yn y West End i noson G诺yl y Faenol 'da Bryn Terfel a Michael Ball i gyngerdd Mawreddog Pontrhydfendigaid dathlu 10 Amser Justin Time [elusen a gafodd ei sefydlu gan Sh芒n er cof am ei g诺r, Justin Smith, a fu farw o ganser y pancreas ym mis Medi 2007], ac ar gefn fy ngheffyl Caio.

Ma' 'na gyment o atgofion campus llawn cyffro, fel ca'l y cyfle i raso ceffyl yng Ng诺yl Cheltenham, a'r dathlu i ddilyn, a choncro Kilimanjaro a 'styried bod bywyd mor fregus! O ac o'dd noson dathlu reido beic o Boston i Efrog Newydd ddim yn ddrwg chwaith!

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hapus, drygionus a chyrliog!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Wizard of Oz - ffantasi a realiti a lliw mewn harmoni. Ti'n gallu dysgu llawer wrth wylio'r ffilm 'na ac mae e'n ffilm berffeth i ymgolli ynddi. Neu The Shawshank Redemption achos golygfa cerddoriaeth godidog Mozart a'r ddeuawd hudolus o Briodas Figaro.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Freddie Mercury. S'dim ishe rheswm... mae ei enw e'n ddigon!

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive

Disgrifiad o'r llun, Mae Sh芒n yn Gaga am Freddie!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi o'dd brenhines Carnifal Neuadd Bro Fana Ffarmers yn 1977 - ma' sash piws 'da fi i brofi hynny!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bydde rhaid fi wasgu reid fach ar y ceffyl mewn cyn cal stecen fach a chwtsho lan 'da'n anwyliaid... 'sain lico meddwl am y peth i fod yn onest.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Anodd ateb! Dwli ar gymaint o bethe ond ar y funud, achos ni newydd recordio hi 'da Elin Fflur, Coflaid yr Angel / Angel, sef clasur Sarah McLachlan.

Ffynhonnell y llun, Sh芒n Cothi

Disgrifiad o'r llun, Mae Sh芒n ac Elin Fflur wedi recordio Coflaid yr Angel i godi arian i elusen Amser Justin Time

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Mussels, stecen, mousse siocled.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ceridwen y wrach.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Gillian Elisa