Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun rhannu car cyntaf gogledd Cymru yng Nghorwen
- Awdur, Si么n Pennar
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae cynllun rhannu car wedi ei sefydlu mewn ardal wledig yn y gogledd gyda'r bwriad o fynd i'r afael ag unigedd.
Fe fydd car trydan ar gael i unigolion yn ardal Corwen i fynd o un lle i'r llall.
Mae'n rhan o gynllun trafnidiaeth 拢100,000 gan Bartneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych.
Yn 么l Roger Hayward o'r fenter, mae'n gyfle i ddarparu trafinidiaeth mewn ardal lle mae "ceir yn angenrheidiol".
Mae llond dwrn o gynlluniau tebyg ar draws Cymru, ond yn 么l y bartneriaeth, dyma'r cyntaf yn y gogledd.
Pobl ardal Edeyrnion sy'n cael ymuno ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid cyfrannu 拢50 y flwyddyn gyda chost ychwanegol o 拢1 yr awr a 25c y milltir.
Mynd i'r afael ag unigedd
Dywedodd Mr Hayward bod hyn yn galluogi pobl leol i deithio am bris "rhesymol".
"'Da ni wedi cael ein hariannu am dair blynedd i weld pa effaith fydd gan gar trydan ar ardal wledig," meddai.
"'Dan ni yma yng nghefn gwlad yn Edeyrnion... Mae 'na bobl allan yn y pentrefi lle does 'na ddim bws, ond maen nhw eisiau dod allan i weld pobl eraill, felly mae ceir fel hwn yn angenrheidiol."
Un sy'n bwriadu ymuno 芒'r clwb ydy Karen Jones, sy'n gweithio mewn tafarn ym mhentre' Carrog.
"Mi faswn i'n ei ddefnyddio i fynd i siopa, pan dydy fy nghar ddim ar y ffordd ac wedi torri lawr.
"Dwi'n hoffi'r ffaith ei fod o'n gar trydan... Os gawn ni'r newyddion allan i'r bobl a'u bod nhw'n gwybod am y peth, yna 'dwi'n siwr y byddan nhw'n defnyddio'r car."
Pan ofynnwyd iddo a oes 'na alw am y car trydan rhent, dywedodd Mr Hayward: "Yr unig ffordd i weld os ydy o'n gweithio ydy drwy flasu'r peth... fe wnawn ni weld dros y tair blynedd nesa' os oes 'na alw am y car yma."
Mae'r car trydanol newydd yn ymuno 芒 chynllun sydd eisoes yn defnyddio bws mini 16 sedd sy'n mynd 芒 thrigolion i wahanol ardaloedd.